'Arweinydd naturiol': Teyrnged i'r cyn-brifathro a'r peldroediwr Geraint Jones
Mae teyrnged wedi ei rhoi i’r cyn brifathro a phêl-droediwr o Wynedd, Geraint Jones.
Bu farw Mr Jones o Ddyffryn Nantlle yn 58 oed yn dilyn cyfnod o salwch.
Roedd yn gyn-bennaeth ar Ysgol Llanllyfni, gan arwain yr ysgol am 22 o flynyddoedd.
Fe gafodd hefyd yrfa lewyrchus fel pêl-droediwr, gan chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru dros Glwb Pêl-droed Porthmadog, ble roedd yn gyn-gapten.
Mewn teyrnged, fe wnaeth y clwb ei ddisgrifio fel “arweinydd naturiol”.
Dywedodd llefarydd ar ran y clwb: “Gyda thristwch mawr derbyniwyd y newyddion fod Geraint ‘Shops’ Jones, cyn gapten a chwaraewr arbennig, wedi ein gadael. Bydd y newyddion am ei golli yn sioc enfawr i gefnogwyr Port.
“Roedd yn cael ei ‘nabod gan bawb fel ‘Siops’, llysenw a gafodd am fod gan ei deulu siop bentre’ yn Frongoch, Y Bala.
“Roedd yn rhan o’r garfan a gynrychiolodd y clwb yn y 1990au, blynyddoedd cynnar Uwch Gynghrair Cymru neu’r ‘Konica’ fel y galwyd.
“Yn arweinydd naturiol, dangosodd wir ysbryd y clwb gyda’i agwedd ‘brwydro i’r diwedd’ a’i barodrwydd i gynrychioli’r crys yn ei wneud yn arwr i gefnogwyr."
Ychwanegodd y clwb: “Pan oedd ar un o’i rediadau ysbrydoledig, edrychai’n amhosib i’w rwystro, gan ddod â’r Traeth i’w thraed yn disgwyl iddo fynd drwy’r wal frics chwedlonol.
“Estynnwn, fel clwb, ein cydymdeimlad dwysaf â theulu a ffrindiau Geraint ar adeg hynod o drist.”
Mae’n gadael tri o blant a’i wraig, Shân.
Llun: Clwb Pêl-droed Porthmadog