Newyddion S4C

Gyrrwr wedi marw ac un arall mewn cyflwr difrifol wedi gwrthdrawiad ger Llanelli

Y ffordd

Mae gyrrwr wedi marw ac un arall mewn cyflwr difrifol wedi gwrthdrawiad rhwng Llangennech a Llanelli yn Sir Gaerfyrddin ddydd Mercher.

Dywedodd yr heddlu bod y gwrthdrawiad yn ymwneud â BMW arian a Peugeot 208 du ac wedi digwydd tua 22.50.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar y A4138 rhwng cylchfan Llangennech a chylchfan yr amlosgfa.

Bu farw gyrrwr y BMW ac mae gyrrwr y Peugeot yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol.

Mae’r ffordd wedi ail agor ers 08.45 ddydd Iau.

Mae’r heddlu wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw, yn enwedig os oes gyda nhw fideo dashfwrdd o’r ardal ar y pryd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.