Yr heddlu wedi eu galw 146 o weithiau i dŷ yn Aberystwyth
Mae llys wedi gwahardd ymwelwyr i dŷ yn Aberystwyth ar ôl i’r heddlu gael eu galw yno 146 o weithiau mewn blwyddyn.
Ni fydd unrhyw un yn cael ymweld â’r cyfeiriad ar Ffordd Pen Maes Glas am dri mis ar ôl gorchymyn llys.
Daw hynny wedi cais gan yr heddlu oherwydd ymddygiad gwrth gymdeithasol ac anhrefn, meddai Heddlu Dyfed-Powys.
Fe dderbyniodd yr heddlu fwy na 146 o alwadau i’r cyfeiriad rhwng 1 Ionawr 2024 a 1 Ionawr 2025, gyda’r adroddiadau yn amrywio o ladrad i ymddygiad gwrthgymdeithasol i ymosodiadau.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Ian Chattun: "Ni fyddwn yn goddef ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddol sy'n cael effaith ar fywydau pobl.
“Mae pryderon gan y gymuned yn bwysig i ni a dyma un enghraifft o gamau y byddwn yn eu cymryd i gadw'r ardal mor ddiogel â phosib.”
Rhoddwyd ystyriaeth ofalus a oedd yn briodol i gau'r cyfeiriad i ymwelwyr, meddai’r heddlu.
Ond fe ddaeth yr heddlu i’r penderfyniad mai dyma’r cam mwyaf priodol i “wella ansawdd bywyd trigolion eraill,” medden nhw.
Dim ond y tenant a chynrychiolwyr o sefydliadau a enwir a ganiateir i fod yn y cyfeiriad.
Bydd unrhyw un arall sy’n cael ei weld yn ymweld â'r eiddo yn torri'r gorchymyn ac yn wynebu dirwy, carchar neu'r ddau.
I roi gwybod am unrhyw un arall sy'n ymweld â'r cyfeiriad, ffoniwch yr heddlu ar 101 ar unwaith, meddai’r heddlu.