Newyddion S4C

Dim angen i athrawon di-Gymraeg Gwynedd ‘boeni’ am newid iaith ysgolion

Athro dan bwysau

Does dim angen i athrawon sydd ddim yn gallu siarad Cymraeg “boeni am eu swyddi” o ganlyniad i wneud y Gymraeg yn brif iaith addysg ym mhob ysgol yng Ngwynedd.

Dywedodd Dewi Jones, aelod cabinet addysg Cyngor Gwynedd na fydd y newidiadau yn digwydd “dros nos”.

Bydd y newid arfaethedig yn effeithio ar dair ysgol: Ysgol Friars, Bangor, Ysgol Uwchradd Tywyn, Tywyn ac Ysgol Ein Harglwyddes, sy'n ysgol gynradd Gatholig ym Mangor.

Ar hyn o bryd maen nhw'n cael eu categoreiddio fel “ysgolion Categori 3T” neu “ysgolion pontio” sy'n symud tuag at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg lawn.

Wrth siarad ar Radio Cymru ddydd Iau dywedodd Dewi Jones bod angen bwrw ymlaen gyda’r newidiadau “ar ryw bwynt”.

“Ar hyn o bryd mae gyda ni athrawon sy’n ddi-Gymraeg sydd wrthi yn dysgu Cymraeg,” meddai.

“Fydd o ddim [yn ofynnol] yn syth bin. Y peth efo’r polisi yma ydi dyw hi ddim yn ymarferol i ni fod yn dweud dros nos, ma na bolisi newydd yn dod mewn, bydd pethau yn newid yn syth bin.

“Fyddwn ni’n ystyriol i hyn ôl ‘llu a fydd na ddim newid dros nos, dyna dw i isio pwysleisio.

“Mae’r polisi yma yn fersiwn drafft ar hyn o bryd. Mi fydd yna nifer o bethau fel hyn i’w trafod yn ystod yr ymgynghoriad.

“Dw i ddim eisiau i neb fod yn poeni am eu swydd nag unrhyw beth felly.

“Fe fydd ‘na gefnogaeth yna - fe fydd yna anogaeth yna hefyd - i roi sgiliau i’n hathrawon.

“Mi ydach chi’n sôn am y diffyg - ac mae hyn yn broblem drwy Gymru - y diffyg athrawon, a diffyg staff yn gyffredinol o ran y Gymraeg.

“Ond mae’n rhaid i ni wneud y newid yna ar ryw bwynt. Mae’n rhaid i ni roi'r Gymraeg i’r genhedlaeth nesa’.

‘Cam nesaf’

Fe fydd yn rhaid i’r newidiadau arfaethedig gael eu craffu a’u trafod yng nghabinet y cyngor a’r cyngor llawn cyn i unrhyw newid ddigwydd.

Ac fe fyddai ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal hefyd i gasglu barn.

“Ar hyn o bryd da ni heb roi cyfnod penodol arna fo ac mi fyddwn ni’n rhoi cefnogaeth i’r ysgolion rheini i symud i addysg Cymraeg,” meddai Dewi Jones.

“Mi fydd yna ddisgwyl fod yna gynllun blynyddol fel eu bod nhw’n gallu edrych ar lle maen nhw arni ar hyn o bryd.

“Fe fyddwn ni gyda’r ysgol yn cynllunio ymlaen ac yn meddwl ‘oce ta, beth ydi’r cam nesaf?’

Mae’r Gymraeg eisoes yn brif gyfrwng yng ngweddill y 90+ o sefydliadau addysgol y sir. 

Ystyrir eu bod yng Nghategori 3 Llywodraeth Cymru - ysgolion sydd eisoes yn cynnig swm sylweddol o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, gyda’r Gymraeg yn brif iaith cyfathrebu fewnol.

Byddai'r plant sy’n symud i’r sir o ardaloedd di-Gymraeg yn cael eu cyfeirio at gynllun trochi'r cyngor, medden nhw.

Y newidiadau yn llawn

Mae'r prif newidiadau, os byddant yn cael eu derbyn, yn golygu:

-Bydd pob lleoliad addysg cyn ysgol yn cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg.

-Bydd holl ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen hyd at ddiwedd Blwyddyn 2 yn cael eu haddysgu a’u hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg.

-Bydd ysgolion yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio’r Gymraeg yn rheolaidd, y tu mewn a’r tu allan i’r dosbarth, mewn modd cwricwlaidd ac allgyrsiol.

-O Flwyddyn 3 ymlaen, bydd o leiaf 80% o weithgareddau addysgol y disgyblion (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg.

-Bydd gafael disgyblion ar y Gymraeg yn parhau i gael ei ddatblygu gan roi sylw i ddatblygiad eu sgiliau yn y ddwy iaith. 

-O Flwyddyn 3 ymlaen, bydd Saesneg yn cael ei chyflwyno fel pwnc a chyfrwng dysgu trawsgwricwlaidd.

-Mewn ysgolion uwchradd, Cymraeg fydd prif iaith addysg pob disgybl hyd at 16 oed.

-Bydd gafael disgyblion ar y Gymraeg yn parhau i gael ei ddatblygu gan roi sylw i ddatblygiad eu sgiliau yn y ddwy iaith. 

-Bydd Saesneg yn parhau i gael ei gyflwyno fel pwnc a chyfrwng dysgu rhai elfennau trawsgwricwlaidd.

-Disgwylir i ysgolion sicrhau bod pob disgybl (Blynyddoedd 2-9) sy’n hwyrddyfodiaid a siaradwyr Cymraeg newydd yn cael eu cyfeirio i fynychu System Addysg Drochi Gwynedd.

-Bydd plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael cyfle cyfartal ieithyddol yn unol â’r polisi.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.