Newyddion S4C

Tariffau Trump: Cynnwrf a chwymp yn y marchnadoedd arian

Tariffau Trump

Mae'r marchnadoedd arian wedi gweld cynnwrf a chwymp yng ngwerth cyfranddaliadau yn dilyn cyhoeddiad yr Arlywydd Donald Trump am dariffau economaidd ar fewnforion i'w wlad ddydd Mercher.

Fe gafwyd cwymp serth yng ngwerth cyfranddaliadau yn fuan ar ôl i'r gyfnewidfa stoc agor yn Efrog Newydd ddydd Iau.

Plymiodd yr S&P 500 tua 3.3%, ac roedd cwymp o 2.6% ar y Dow Jones erbyn prynhawn dydd Iau pan agorodd y marchnadoedd ar Wall Street.

Mae marchnadoedd Ewrop a Phrydain hefyd wedi gweld gostyngiadau sydyn yn dilyn cyhoeddiad Mr Trump, a fydd yn effeithio’n sylweddol ar fasnach fyd-eang.

Yn Llundain fe wnaeth mynegai'r can cwmni ostwng 1.4% yn y munudau cyntaf o fasnachu.

Yn y cyfamser mae grwpiau busnes wedi rhybuddio y bydd y tariffau newydd yn “ergyd sylweddol” i fusnesau bach a mawr yn y DU.

Fe wnaeth arlywydd yr UDA gadarnhau y bydd tariffau o 10% ar nwyddau sy’n cael eu mewnforio o’r DU i’r Unol Daleithiau o 5 Ebrill ymlaen.

Bydd treth uwch o 25% ar geir, dur ac alwminiwm.

Mae nifer o wledydd eraill yn wynebu tariffau uwch, gan gynnwys 20% ar yr Undeb Ewropeaidd a 34% ar China.

Bydd tariffau o 10% o leiaf ar nwyddau pob gwlad sy'n cael eu mewnforio i UDA meddai'r Tŷ Gwyn, gan gynnwys Ynysoedd Heard a McDonald - gan beri syndod gan nad oes neb yn byw ar yr ynysoedd rheini y tu hwnt i bengwiniaid.

Cwsmeriaid yn yr Unol Daleithiau fydd yn talu'r trethi uwch ond dywedodd Donald Trump y bydd yn gwneud nwyddau sy’n cael eu creu o fewn UDA yn fwy cystadleuol.

“Dyma un o’r diwrnodau pwysicaf yn hanes yr Unol Daleithiau, yn fy marn i,” meddai.

“Dyma ddatgan annibyniaeth ariannol yr Unol Daleithiau.”

Yr effaith economaidd

Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) wedi rhybuddio y bydd y trethi newydd yn “ergyd sylweddol” i fusnesau bach a chanolig, sydd eisoes dan bwysau oherwydd economi sigledig y DU.

Mae 59% o allforwyr bach y DU yn gwerthu i’r Unol Daleithiau, meddai’r Ffederasiwn Busnesau Bach.

Dywedodd y grŵp busnes, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI), y byddai'r cyhoeddiadau'n creu "trafferth" i fusnesau ledled y byd.

Ond dywedodd y cyfarwyddwr Rain Newton-Smith bod angen i Lywodraeth y DU ymateb “heb gynhyrfu gormod” er mwyn osgoi tariffau uwch fyth.

Rhybuddiodd Emma Rowland, cynghorydd polisi masnach Sefydliad y Cyfarwyddwyr y bydd angen i fusnesau'r DU “ailystyried” gwerthu i Unol Daleithiau America.

Wrth ymateb i'r darlun rhyngwladol, dywedodd Olu Sonola, pennaeth ymchwil economaidd yn asiantaeth statws credyd Fitch Ratings yn y DU, y gallai "achosi dirwasgiad mewn nifer o wledydd".

Ymateb y gwleidyddion

Fe awgrymodd Llywodraeth y DU y byddai yn bosib dod i gytundeb gyda Donald Trump er mwyn gostwng y tariffau.

Dywedodd y Prif Weinidog, Keir Starmer fore dydd Iau y bydd yn ymateb yn "bwyllog" i'r tariffau newydd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes Jonathan Reynolds mai’r Unol Daleithiau “yw ein ffrind agosaf” ac y byddai’r Llywodraeth yn “parhau’n ymroddedig” a “heb gynhyrfu”.

Awgrymodd Ursula von der Leyen, llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, y byddai'r Undeb Ewropeaidd yn ymateb i'r tariffau gyda'i mesurau economaidd ei hun. 

“Rydyn ni [Ewrop] yn sefyll gyda’n gilydd - os ydych chi'n herio un ohonom ni, rydych chi'n herio bob un ohonom ni,” meddai.

"Mewn undod mae nerth.”

Mewn datganiad dywedodd Gweinyddiaeth Fasnach Tsieina y dylai’r Unol Daleithiau "ddirymu'r mesurau tariff unochrog hyn ar unwaith”.

"Dylai Donald Trump ddatrys unrhyw anghydfodau masnach trwy ddeialog gyfartal â'i bartneriaid," meddai. 

“Mae Tsieina’n gwrthwynebu’r newid yn gryf a bydd yn cymryd camau cadarn i ddiogelu ei hawliau a’i buddiannau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.