
Disgwyl penderfyniad ar orsafoedd niwclear yng Nghymru 'erbyn diwedd yr haf'
Disgwyl penderfyniad ar orsafoedd niwclear yng Nghymru 'erbyn diwedd yr haf'
Mae disgwyl penderfyniad ar ddyfodol unrhyw adweithyddion niwclear bychain neu SMR’s yng Nghymru erbyn diwedd yr Haf, yn ôl Cadeirydd Grŵp y Senedd ar niwclear.
Dweud mae Vaughan Gething ei fod yn “obeithiol ac yn bositif” y gallai un o’r safleoedd hynny fod yng Nghymru.
Mae adweithyddion bychain yn cynhyrchu llai o ynni niwclear o gymharu ag atomfeydd llawn fel Wylfa neu Hinkley C.
Yn ôl Llywodraeth Prydain bydd cyhoeddiad “yn y man” ac mae gan ynni niwclear “rôl bwysig” wrth gyrraedd targedau sero net.
Mae eleni’n nodi 10 mlynedd ers i safle Wylfa yng ngogledd Môn stopio cynhyrchu ynni drwy niwclear a thra bod cryn sylw ar niwclear newydd, mynnu mae cwmni Nuclear Restoration Service (NRS) bod angen gweithwyr newydd ym maes dad-gomisynnu.

“Dydi pobl ddim weithiau’n meddwl am dad-gomisynnu fel gyrfa pan mae nhw mewn ysgol,” meddai Ffion Morris sy’n reolwr Peirianneg yn Wylfa.
“Oni wedi symud i ffwrdd yn gyntaf ac mi nes i ddod nôl i Sir Fôn ar gyfer y swydd yma.
“Dwi’m yn meddwl bod lot o bobl yn gwybod be da ni’n neud a dyna pam dwi di bod yn rili passionate am gael ysgolion mewn ‘ma”
“Mae ‘na lot fawr o waith yma, tyfu mae’r cwmni, ddim mynd yn llai."
Mi fydd gwaith dad-gomisynnu yn parhau tan o leiaf ddiwedd y ganrif medd gweithwyr a’r sector eisoes yn cefnogi 500 o weithwyr yng Nghymru heddiw.
Ond gyda chwestiynau o hyd dros ddyfodol unrhyw adweithydd niwclear newydd ym Môn, mae Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol Niwclear y Senedd, Vaughan Gething yn dweud bod disgwyl mwy o fanylion am ddyfodol adweithyddion bychain ddiwedd yr haf.
“Da ni’n disgwyl erbyn diwedd yr haf y bydd cyhoeddiad am y genhedlaeth nesa o adweithyddion bychain.
“Dwi’n eitha positif ac yn obeithiol,” meddai’r cyn Brif Weinidog.
“Mae ‘na wahaniaeth rhwng yr adweithyddion bychain hyn o gymharu â rhai mawr fel Hinkley.
“Mae Hinkley yn cymryd tua 10-12 mlynedd i adeiladu a does ganddo ni ddim y gweithlu yma yn y Deyrnas Unedig i neud hynny ar yr un amser”.

Gyda phenderfyniad cadarn eto i ddod ar ddyfodol safle Wylfa, dweud mae mudiad PAWB na ddylai cynhyrchu niwclear newydd fod yn opsiwn.
“Da ni ar Ynys Ynni ac mae ‘na ddigon o ynni naturiol alle gal ei greu,” meddai Robat Idris o‘r mudiad.
“Mae digon o ffyrdd o ynysu tai fel nad ydy nhw’n gollwng gwres.
“Mae hogiau ifanc eisiau gwaith rŵan, nid rhyw freuddwyd fach mewn blynyddoedd."
Yn ôl Llywodraeth Prydain mi fydd ynni niwclear yn “chwarae rôl bwysig wrth helpu cyrraedd targedau diogelwch ynni ac ynni glan wrth gefnogi miloedd o swyddi o lefel sgil uchel”.
“Rydym eisoes wedi newid rheolau cynllunio i wneud hi’n haws i adeiladu isadeiledd niwclear ar draws y wlad.
“Fel safle sydd eisoes wedi bod yn gartref i bwerdy niwclear, byddwn yn gweithio gyda Great British Nuclear er mwyn asesu opsiynau i gynhyrchu ynni niwclear newydd yn Wylfa."