Newyddion S4C

Michael Sheen i bortreadu Glyndŵr mewn drama cwmni theatr newydd

ITV Cymru
Michael Sheen

Mae cwmni theatr newydd sydd wedi ei sefydlu gan yr actor Michael Sheen wedi cyhoeddi rhestr o'i chynyrchiadau cyntaf.

Cafodd cwmni Welsh National Theatre ei lansio fis Ionawr, ac fe fydd yn cynhyrchu gwaith theatrig drwy gyfrwng y Saesneg. 

Bydd y sefydliad ar wahân i Theatr Cymru, y cwmni theatr cenedlaethol Cymraeg ei hiaith a sefydlwyd yn 2003.

Nod y cwmni newydd, yn ôl Michael Sheen, fydd “creu gwaith o safon fyd-eang o Gymru a’i gludo i’r byd”.

Mae’r cwmni bellach wedi cadarnhau ei fod wedi derbyn arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru, er mwyn datblygu ei “strwythurau a gweledigaeth”.

Mae’r cwmni hefyd wedi datgelu'r ddau gynhyrchiad cyntaf, gyda’r ddau yn dod i lwyfannau Cymru a Lloegr yn 2026.

Bydd addasiad o’r ddrama ‘Our Town’, sydd wedi ennill gwobr Pulitzer, yn ymweld â theatrau yn Abertawe, Llandudno, Yr Wyddgrug a Kingston-upon-Thames ym mis Ionawr 2026.

Bydd Francesca Goodridge yn cyfarwyddo'r drama, gyda Russell T Davies yn gydlynydd creadigol.

Yna bydd Sheen yn portreadu Owain Glyndŵr mewn cynhyrchiad o’r ddrama ‘Owain & Henry’ yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, ym mis Tachwedd 2026.

Mae’r ddrama, sydd wedi ei hysgrifennu gan Gary Owen, wedi ei seilio ar y frwydr rhwng lluoedd Glyndŵr a Brenin Harri IV.

'Gweledigaeth'

Dywedodd Michael Sheen: “Mae gweledigaeth Theatr Genedlaethol Cymru wedi’i adlewyrchu gan y ddau gynhyrchiad yma. 

"Mae Owain a Henry yn un o straeon tarddiad ein cenedl, yr un mor berthnasol yn y byd cymhleth heddiw ag yr oedd pan wnaeth Glyndŵr ddatgan Cymru yn genedl annibynnol 600 mlynedd yn ôl.

“Bydd chwarae’r tywysog Cymreig eiconig ar un o lwyfannau mwyaf Ewrop yn ein prifddinas, gobeithio, yn foment enfawr i ni fel pobl, a diwylliant. Dyna hanfod Welsh National Theatre.”

Mae'r cwmni hefyd wedi cyhoeddi cynllun o’r enw’r ‘Welsh Net’, sy'n rhwydwaith o sgowtiaid talent ledled Cymru. 

Bydd y sgowtiaid yn gwylio theatr ieuenctid, amatur a phroffesiynol, perfformiadau a sioeau, gyda'r bwriad o adnabod a datblygu talent.

Ychwanegodd Mr Sheen: “Wrth dyfu i fyny ym Mhort Talbot, chwarae pêl-droed ar gae wrth ymyl yr A48, roeddwn i bob amser yn gwybod bod siawns y gallai ‘sgowtiaid’ fod yn gwylio.

"Roedd yn golygu fod y posibilrwydd o lwybr i'r brig yn bodoli. Rwyf am i bob person ifanc, amatur a phroffesiynol sy'n perfformio neu'n gweithio y tu ôl i'r llenni yng Nghymru gael yr un llwybr posibl i'r lefel creadigol uchaf."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.