‘Gwawr newydd’: Michael Sheen yn lansio cwmni theatr cenedlaethol newydd
Mae’r actor Michael Sheen wedi lansio cwmni theatr cenedlaethol newydd yng Nghymru.
Bydd y Welsh National Theatre yn sefydliad newydd a fydd yn cynhyrchu gwaith theatr trwy gyfrwng y Saesneg, yn ôl cyhoeddiad fore Iau.
Nod y cwmni newydd fydd “i greu gwaith o safon fyd-eang o Gymru a’i gludo i’r byd”.
Bydd y sefydliad ar wahân i Theatr Cymru, y cwmni theatr cenedlaethol iaith Gymraeg, a sefydlwyd yn 2003.
Daw'r cyhoeddiad wedi i gwmni National Theatre Wales ddod i ben y llynedd ar ôl colli cefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Dywedodd Mr Sheen, sydd wedi serennu ar lwyfannau’r West End a Broadway ac ar deledu a ffilm, mai creu byd lle mae “Cymru’n cael ei pharchu fel cenedl sydd â llais pwerus a stori i’w hadrodd,” sydd wrth wraidd ei weledigaeth.
“Dyma wawr newydd i theatr yng Nghymru,” meddai.
“Byddwn yn gartref i’n talent mwyaf, gan ddod â nhw at ei gilydd i greu theatr uchelgeisiol sy’n gwneud i’n stori genedlaethol ddod yn fyw.
“Dyna beth ddylai theatrau cenedlaethol eu gwneud.”
'Gwirioneddol uchelgeisiol'
Fe ychwanegodd er bod gan Gymru “hanes adrodd straeon mor gyfoethog”, nad oedd y straeon y genedl yn cael eu hadrodd ”yn ddigonol yn yr iaith Saesneg, yng Nghymru ac yn rhyngwladol.”
“Rwyf wedi treulio llawer o’r flwyddyn ddiwethaf ar lwyfan yn chwarae rhan Aneurin Bevan yn Nye, gan Tim Price, mewn theatrau oedd dan eu sang, yng Nghymru a thu hwnt. Mae gan gynulleidfaoedd awydd mawr am ein straeon os ydym yn rhoi cyfle iddynt eu profi.
“Bydd ein dramâu a’n perfformiadau yn adrodd hanesion gorffennol, presennol a dyfodol Cymru, yn ogystal â chlasuron a welir trwy lens Gymreig.
“Cânt eu cynhyrchu ar lwyfannau mawreddog y byd, gan dalentau Cymreig o safon fyd-eang.
“Rydym am wthio ysgrifennu gwirioneddol uchelgeisiol gan ddramodwyr Cymreig ar gyfer ein hactorion gorau, fod yn binacl i’n dawn greadigol, gan godi’r bar am ragoriaeth ym myd adloniant.
Bydd cyhoeddiad am gynhyrchiad cyntaf y theatr newydd yn dilyn “maes o law”, yn ôl y Welsh National Theatre.
Llun: Welsh National Theatre