Newyddion S4C

'Colled o hanner biliwn o bunnoedd' i fasnach drwy borthladd Caergybi

Difrod porthladd Ceargybi

Roedd masnach drwy borthladd Caergybi fis Rhagfyr diwethaf bron hanner biliwn yn llai na'r flwyddyn flaenorol yn ôl tystiolaeth gan un o bwyllgorau'r Senedd.

Fe gafodd holl wasanaethau fferi ym mhorthladd Caergybi eu canslo cyn y Nadolig ar ôl difrod i ddwy derfynfa.

Bu'n rhaid i filoedd o bobl oedd yn ceisio teithio adref ar gyfer y Nadolig wneud trefniadau eraill. Yn ogystal, cafodd effaith ddifrifol ar nifer o fusnesau yng Nghymru ac Iwerddon.

Dywedodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd mai ymateb Llywodraeth Cymru i gau'r porthladd y llynedd oedd un o'r 'prif ffactorau o ran colli masnach'.

Ychwanegodd y pwyllgor eu siom gyda 'diffyg cyflymder a brys' Llywodraeth Cymru wrth ymateb i gau porthladd fferi prysuraf Cymru.

Mae'r pwyllgor yn galw am adolygiad o'r gwersi a gafodd eu dysgu ac er mwyn paratoi am y posibilrwydd o gael sefyllfa debyg yn y dyfodol. 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n siomedig iawn na wnaeth y Pwyllgor geisio rhoi eglurhad a gwybodaeth fanwl am yr ymdrechion i gefnogi cludiant nwyddau a symudiadau teithwyr cyn cyhoeddi eu hadroddiad.

"Byddwn yn darparu ymateb llawn i'r adroddiad maes o law.  Bydd Tasglu Môr Iwerddon, sydd eisoes wedi cychwyn ar ei waith, yn werthfawr tu hwnt gan ein galluogi i edrych yn ôl ar gau’r porthladd dros dro a’i ystyried yn fwy gofalus, yn ogystal â sicrhau ein bod yn diogelu gwytnwch llwybrau Môr Iwerddon yn y dyfodol."

'Rhy araf'

Dywedodd Andrew R T Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd: "Rydym yn siomedig iawn gan y diffyg cyflymder a brys yn ymateb Llywodraeth Cymru i gau llwybr masnach Ewropeaidd hollbwysig.

"Mae’n amlwg nad oedd ymateb Llywodraeth Cymru yn dderbyniol – roedd yn rhy araf, a heb ei gydlynu. Gadawyd llawer o bobl yn y tywyllwch oherwydd nad oedd y cyfathrebu'n ddigon da - rhaid i hyn beidio â digwydd eto."

Ychwanegodd y pwyllgor nad oedd yn glir iddynt pa Weinidog sy'n gyfrifol am ymateb Llywodraeth Cymru, ac maent yn argymell y dylai'r llywodraeth gytuno ar un Gweinidog i fod yn atebol am reoli'r ymateb. 

Doedd dim digon o frys wrth ymateb i geisiadau i gefnogi busnesau a gafodd eu heffeithio yn sgil cau'r porthladd yn ôl y pwyllgor.

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru Ken Skates ym mis Ionawr y byddai tasglu arbennig i ymateb i gau borthladd Caergybi yn cael ei sefydlu.

Cafodd cyfarfod cyntaf y tasglu ei gynnal ar 27 Mawrth.

Dywedodd y pwyllgor y byddant yn monitro gwaith y tasglu yn agos, ac maent wedi rhestru nifer o amcanion ar eu cyfer. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.