Newyddion S4C

Donald Trump i gyflwyno tariffau newydd ar 'Ddiwrnod Rhyddid'

Donald Trump yn gyflwyno tollau ar geir

Mae'r Tŷ Gwyn wedi cadarnhau y bydd yr Arlywydd Donald Trump yn cyflwyno tariffau newydd ddydd Mercher.

Ers wythnosau mae Mr Trump wedi bod yn cyfeirio at 2 Ebrill fel "Diwrnod Rhyddid". 

Mae wedi dweud y bydd y tariffau y bydd yn eu cyhoeddi yn rhyddhau'r Unol Daleithiau rhag dibynnu ar nwyddau tramor.

Y disgwyl yw y bydd yn cyhoeddi fwy o fanylion am y tariffau, sef trethi ar fewnforion, yn y Tŷ Gwyn am 16.00 amser lleol (20.00 GMT).

Dywedodd llefarydd ar ran y Tŷ Gwyn, Karoline Leavitt, y byddai tariffau cyfatebol ar wledydd sy’n gosod tollau ar nwyddau America yn dod i rym yn syth. 

Bydd trethi mewnforio newydd o 25% ar geir yn dod i rym ddydd Iau.

Mae Mr Trump eisoes wedi cyflwyno tariffau ar fewnforion alwminiwm a dur o bob gwlad.

Mae hefyd wedi cynyddu tollau ar yr holl nwyddau o China yn ogystal â rhai nwyddau o Ganada a Mecsico.

Fydd y tariffau'n effeithio'r DU?

Nid dyma'r tro cyntaf i Mr Trump fygwth cyflwyno tariffau eraill, gan yna eu canslo neu eu gohirio.

Ond mae cyhoeddiad Leavitt yn nodi ei fod yn bwriadu bwrw ymlaen gyda'i gynlluniau y tro hwn. 

"Mae gan yr arlywydd dîm gwych o gynghorwyr sydd wedi bod yn astudio’r materion hyn ers degawdau, ac rydym yn canolbwyntio ar adfer oes aur America," meddai Leavitt mewn sesiwn friffio i’r wasg.

Daw penderfyniad Mr Trump i fwrw ymlaen gyda'r tariffau yn sgil pryder byd eang gan fusnesau am gynnydd mewn prisiau.

Nid yw'n glir ar hyn o bryd a fydd y DU yn cael ei heffeithio. Er hynny ddydd Sul dywedodd Mr Trump y gallai'r tariffau newydd fod yn berthnasol i "bob gwlad".

Mae nifer o wledydd yn dal i obeithio y gallan nhw ddod i gytundeb gyda'r arlywydd yn y pen draw.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, David Lammy, fod yn rhaid i’r DU "baratoi am y gwaethaf" wrth i "sgyrsiau dwys" barhau ar gytundeb economaidd.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.