Sir Gâr: Apelio am dystion wedi i fenyw farw mewn gwrthdrawiad
Mae'r heddlu yn apelio am dystion wedi i fenyw farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y gwrthdrawiad wedi digwydd ar y ffordd rhwng Myddfai a Llanymddyfri tua 09:15 ar 27 Mawrth.
Roedd y fenyw yn gyrru car Ford Fiesta lliw arian, a bu farw o'i hanafiadau.
Cafodd y ffordd ei chau am beth amser cyn ailagor am 14:09.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn awyddus i siarad ag unrhyw un oedd yn yr ardal adeg y gwrthdrawiad all fod o gymorth i'w hymchwiliad.
Mae modd cysylltu â'r llu drwy ffonio 101 neu ar eu gwefan gan nodi'r cyfeirnod 25*252029.