Newyddion S4C

Un o bob 10 person yn teimlo bod y Gwasanaeth Iechyd 'wedi eu niweidio'

Ysbyty

Mae un o bob 10 person yn teimlo eu bod nhw "wedi cael eu niweidio" gan y Gwasanaeth Iechyd (GIG).

Yn ôl arbenigwyr mae triniaeth sydd yn achosi niwed corfforol neu emosiynol yn gallu cael effeithiau hirdymor.

Dywedodd awdur yr ymchwil, Dr Helen Hogan fod "tipyn o ffordd i fynd eto i wella diogelwch ar draws y GIG."

Cafodd dros 10,000 o bobl eu holi ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban gyda 9.7% yn dweud eu bod nhw wedi cael eu niweidio gan y GIG yn y tair blynedd diwethaf.

Roedd 6.2% o rheiny yn niwed o ganlyniad i driniaeth neu ofal a 3.5% yn dweud bod diffyg mynediad i ofal wedi achosi niwed iddynt.

Cafodd yr arolwg barn yma ei gynnal rhwng diwedd 2021 a dechrau 2022.

Ysbyty oedd y prif leoliad lle achoswyd niwed i bobl gyda syrjeri meddyg teulu yn ail ar y rhestr.

O'r 988 o bobl a dywedodd eu bod wedi cael eu niweidio yn gorfforol, roedd 44.8% ohonynt yn dweud bod yr effaith arnynt yn "ddifrifol."

'Ymchwilio'

Dywedodd Dr Helen Hogan fod y canfyddiadau yn dangos bod llawer o'r cyhoedd yn dioddef yn sgil triniaeth y GIG.

“Mae’r canfyddiadau hyn yn dangos bod gofal iechyd yn achosi niwed i nifer sylweddol o’r cyhoedd," meddai.

“Mae ein hastudiaeth yn dangos bod yna dipyn o ffordd i fynd eto i wella diogelwch ar draws y GIG.”

“Pan fydd triniaeth y GIG ei hun neu ddiffyg darpariaeth triniaeth o’r fath yn arwain at niwed corfforol neu seicolegol, gall yr effaith ar iechyd a lles fod yn hirdymor.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n parhau i wella ansawdd y gofal mae'r GIG yn ei ddarparu.

“Rydym am i unrhyw niwed neu bryderon am ofal sydd yn cael ei ddarparu gan y GIG yng Nghymru gael eu hadrodd fel bod modd i ni gynnal ymchwiliad yn drylwyr ac yn agored.

“Rydym yn gwneud y broses gwyno yn symlach fel y gall y GIG ymateb yn gyflym i adborth, dysgu pan mae pethau yn mynd o'i le, a gwella ansawdd y gofal parhaus rydym yn ei ddarparu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.