'Cysylltu iaith a diwylliant' trwy addysgu pobl am hanes enwau lleoedd yng Nghymru
'Cysylltu iaith a diwylliant' trwy addysgu pobl am hanes enwau lleoedd yng Nghymru
Maen nhw'n enwau cyfarwydd er eu hystyr bosib yn annelwig.
Ond fesul pentref, tref neu fryn mae Josef Roberts yn mynd ati i ddod a'r hanes yn fyw.
"'Dan ni yn Hen Golwyn ger Bae Colwyn yng Nghonwy ar hyn o bryd.
"Roedd yr ardal yma'n rhan o Gantref Rhos yn y Canol Oesoedd."
Oes, mae gan y pentref hwn ger y mor hen hanes.
Ond a'r mwyafrif yma'n uniaith Saesneg faint o'r rheiny neu'n wir y Cymry Cymraeg sy'n gwybod eu tarddiad?
"O Golwyn i Hen Golwyn a'r ardal o gwmpas yr orsaf wedi newid i Colwyn Newydd ac wedyn Bae Colwyn."
Wedi sawl rhybudd bod enwau llefydd yng Nghymru mewn peryg o ddiflannu ac enwau Saesneg yn dod yn fwy cyfarwydd mae Josef sydd wedi dysgu Cymraeg ers dychwelyd o weithio yn Tsienia ar frwydr i addysgu'r di-Gymraeg.
"It's a settlement by the river Conwy oppposite Conwy in Conwy county.
"The name's made of two parts, 'Degan' and 'Wy'."
Wrth fentro i ddyfnderoedd tarddiad yr enwau mae'n gobeithio gwneud gwahaniaeth a'i fagwraeth uniaith Saesneg wrth galon y fenter.
"Es i'r ysgol ond doedd dim hinsawdd i siarad Cymraeg yno. 'Dan ni wedi dysgu Cymraeg, ond heb lwyddo ynddi.
"Pan o'n i'n 17 oed, wnes i symud i Tsieina a dysgu Tsieineeg.
"Ond ar ol symud yn ôl nes i benderfynu dysgu Cymraeg ar fy mhen fy hun.
"Dw i 'di sylwi bod llawer o bobl yng Nghymru sydd ddim yn deall enwau'r llefydd o'u cwmpas.
"Os dw i'n egluro'r enwau dw i'n medru cysylltu pobl i iaith a diwylliant Cymru."
"The town grew up largely around the train station which was built here in the 1890s."
Wedi gadael ei swydd marchnata, dyma'r flaenoriaeth ac yn waith llawn amser i Josef bellach sy'n mynnu mai addysgu pobl di-Gymraeg ydy'r ffordd orau i warchod enwau.
"Gyda fideos byr, dw i'n ceisio newid pethau dipyn bach.
"Os yw pobl yn deall ystyr enwau, bydden nhw'n eu gwerthfawrogi fwy.
"Os ti'n cysylltu pobl i'r iaith, gobeithio bydd o'n annog eraill."
Drwy Gymru, mae trysor o hanes ac enwau sy'n arwydd o'r cyfan.
Gyda sawl corff, fel Parc Cenedlaethol Eryri bellach yn dewis enw uniaith yn unig y gobaith ydy normaleiddio'r iaith bob dydd.
"Dyna Hen Golwyn, Bae Colwyn a Llandrillo yn Rhos, Rhiwledyn y Gogarth a Bryn Euryn."
Oes, ar garreg yr aelwyd, mae 'na hanes tu ôl i'r enwau sydd i nifer wedi'w colli.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweudbod gwaith ymchwil ar y gweill er mwyn gwella dealltwriaeth i warchod enwau cymunedau a'u bod yn cydweithio gyda phartneriaid.
Er yn crafu'r wyneb, mae mwy i ddod gan Josef a'i fenter.
"Fy amcan efo Tirlun yw creu fideo am bob lle yng Nghymru."
Fesul cam, fesul enw, mae'r gwaith o ddiogelu'r enwau megis dechrau.