Newyddion S4C

Oedi ar newid y gwasanaeth bysys yng Nghymru

Oedi ar newid y gwasanaeth bysys yng Nghymru

Hir yw pob aros.

Mae'n flynyddoedd ers i'r Llywodraeth addo newid y gwasanaeth bysus, sy'n hanfodol i bobl fel Sandra oedd yn casglu ei wyr o'r feithrinfa yn Cross Hands.

"Fi'n mynd i Drefach ac yn dala'r 129 neu 128."

Yw honno'n daith y'ch chi'n gwneud yn aml?

"Ydy."

Mae fe'n wasanaeth da?

"Ydy."

Troi lan ar amser?

"Ydy. Fi'n gorfod dependo ar y bws,meniwe. Sdim car 'da fi. Wedi bod lan yn siopa a fi'n mynd gartre."

Heb y bws?

"Bydd rhaid i fi gerdded!"

O'r diwedd, mae hi 'ma.

Cyhoeddwyd cyfraith heddiw a fydd yn gorfodi cwmniau byssus i ymuno gyda rhwydwaith cyhoeddus.

Ers canol yr 1980au, cwmniau preifat sydd wedi rhedeg y gwasanaeth bysus.

Mae 'di bod yn brysur ar yr 129 bore 'ma a phob tocyn sy'n cael ei werthu yn creu elw i'r cwmni.

Ond yn y dyfodol, os ydy nifer y teithwyr yn gostwng y trethdalwyr fydd yn ysgwyddo'r baich.

Cyn hir, cwmni cludiant y Llywodraeth Trafnidiaeth Cymru, fydd yn creu'r llwybrau, 'sgwennu'r amserlenni a gosod pris y tocynnau ac yn talu'r sector preifat i weithredu'r gwasanaeth.

Mae'r Llywodraeth yn cyfaddef bod cyflwyno'r drefn ryddfraint yn golygu bod nhw'n cymryd risg.

"We've proved with the Traws Cymru network that we control that you can drive up passenger numbers and the fare box if you make services more responsive to people's needs."

Y bwriad yw cyflwyno'r mesur fesul rhanbarth gan ddechrau yn y flwyddyn 2027 yn Abertawe a'r de-orllewin.

Erbyn diwedd y degawd, bydd pob rhan o Gymru yn y rhwydwaith.

"Fel gyda phopeth, diwedd y gan yw'r geiniog. Dyw'r system ddim am gael cyfle teg os nad yw'n cael ei gyllido'n iawn.

"Mae'n rhaid sicrhau bod cyllid digonol i wneud e. Wedyn, gallen nhw wneud pethau er mwyn ceisio tyfu'r niferoedd sydd wedi mynd lawr yn arswydus."

Er y gostyngiad mewn teithwyr mae miloedd, fel y myfyrwyr yma ym Mhwllheli yn parhau i ddibynnu ar y bws.

"Dw i 'di bwcio test dreifio .ond does 'na'm un ar gael tan blwyddyn nesa.

"Mae bysus yn ofnadwy o bwysig. Mae'n helpu ni allu mynd i lefydd."

"Dw i'n defnyddio'r byssus yn eitha aml os dw i isio mynd i Bwllheli i wneud rhywbeth neu i wylio gemau pêl-droed ym Mhorthmadog ac ati.

"Dw i'n gorfod talu £2."

“Dw i'n licio bysus ac mae'n ffordd dda o drafeilio rownd Pen Llŷn.”

Mae'r Ceidwadwyr yn amheus.

Er bod Plaid Cymru'n cefnogi'r syniad maen nhw'n cyhuddo'r Llywodraeth o oedi.

Mae'n rhaid i'r Senedd gytuno i'r polisi.

I Fae Caerdydd, felly, ar gyfer cymal nesa'r daith.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.