Newyddion S4C

Cwmgors: Dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gar

Ffordd Abernant, Cwm-gors
Ffordd Abernant, Cwm-gors

Mae dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gar ger Pontardawe.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod swyddogion wedi eu galw i wrthdrawiad ar Ffordd Abernant yng Nghwm-gors am 22:00 nos Sul.

Bu farw dyn 45 oed o Frynaman Isaf  o ganlyniad i'r gwrthdrawiad.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru a'r gwasanaeth eu galw hefyd.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd â lluniau dashcam,  i gysylltu â nhw trwy ddyfynnu'r cyfeirnod 2500100251.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.