Cymuned yn llwyddo i achub tafarn y Ring
Mae menter gymunedol yng Ngwynedd wedi llwyddo i godi digon o arian i dalu am les eu tafarn leol.
Roedd ymgyrchwyr o gymuned Llanfrothen wedi bod yn codi arian i brynu prydles Y Brondanw Arms, sy’n cael ei hadnabod fel y Ring, er mwyn rhedeg y dafarn fel menter gymunedol.
£200,000 oedd y nod erbyn hanner nos, ddydd Llun 31 Mawrth.
Ar gyfryngau cymdeithasol mae arweinwyr y fenter wedi cyhoeddi fod eu hymdrechion yn llwyddiannus, ar ôl iddyn nhw werthu £197,100 o gyfranddaliadau.
"Diolch i chi, deulu y Ring, ‘da ni’n falch iawn o gyhoeddi fod genna ni ddigon o arian i dalu am y les ar y Ring!" meddai'r datganiad.
Mae'r dafarn yn rhan o Ystâd Brondanw, a gafodd ei sefydlu gan bensaer pentref Eidalaidd Portmeirion, Syr Clough Williams-Ellis.
Fe gafodd Menter Y Ring ei hysbrydoli i achub y dafarn yn dilyn sawl ymgyrch lwyddiannus gan gymunedau eraill i droi eu tafarndai yn fentrau cymunedol.