Gohirio penderfyniad ar gynllun ynni hydro yn Eryri

Hydro

Mae'r penderfyniad dros ganiatáu cynllun ynni hydro dadleuol yn Eryri wedi cael ei ohirio.

Cafodd y cais i drafod y cynllun ar gyfer Afon Cynfal ger Llan Ffestiniog ei drafod yn fyr ym Mhwyllgor Cynllunio a Mynediad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fore dydd Mercher.

Mae'r cais yn cael ei wrthwynebu ar sail amgylcheddol a'r effaith y bydd yn ei gael ar Afon Cynfal.

Er i gynlluniau'r gorffennol fethu â dwyn ffrwyth, roedd swyddogion cynllunio y Parc Cenedlaethol wedi argymell caniatáu'r cynllun.

Ar ddechrau'r cyfarfod, gofynnodd swyddog wrth aelodau'r pwyllgor i ohirio'r cais tan gyfarfod nesaf y pwyllgor ar 25 Chwefror, a hynny gan fod cymaint o ymatebion hwyr wedi cyrraedd gan y cyhoedd.

Ychwanegodd fod Cymdeithas Eryri wedi cysylltu gyda'r Awdurdod yn ystod y dyddiau diwethaf i ddweud bod 1,300 o sylwadau ychwanegol wedi eu cyrraedd, a'i fod yn hanfodol fod pob sylw yn cael ei ystyried yn llawn.

Doedd hi heb fod yn bosib i swyddogion ystyried y ceisiadau hyn cyn y cyfarfod, ac felly'r cais oedd i ohirio'r penderfyniad.

Cafodd y cais hwnnw ei gefnogi'n unfrydol mewn pleidlais gan aelodau'r pwyllgor cynllunio.

Image
Moi Dafydd
Moi Dafydd, un o ddatblygwyr y cynllun

Un o ddatblygwyr y cynllun yw Moi Dafydd. Mae o a'i frodyr yn ffermio yn lleol, ac yn dweud y bydd y cynllun yn darparu trydan i drigolion lleol ac yn helpu i gyrraedd targedau net sero.

Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C: "Fydd y cynllun ond yn gweithio ar adegau pan fydd hi'n wlyb ac yn amlwg yn yr haf pan fydd lot o bobl o gwmpas a ddim yn iwshio dim dŵr yno felly.

"Ond pan fydd 'na ddigon o ddŵr yn yr afon fe fyddwn ni'n cymryd canran o'r dŵr ac yn ei ddargyfeirio drwy bibell i lawr drwy waelod y dyffryn cyn ei ddychwelyd yn ôl i'r afon, a wedyn fydd hynny'n creu digon o drydan i 700 o dai a fydd o'n arbed dros 1900 o dunelli o garbon y flwyddyn."

Mae Cwm Cynfal yn ardal o ddiddordeb gwyddonol arbennig ac yn gynefin i fywyd gwyllt a phlanhigion amrywiol.

Mae gwrthwynebwyr yn poeni y gallai'r cynllun achosi niwed a mynd yn groes i reolau cenedlaethol ar safleoedd o'r math yma.

Image
Rory Francis
Rory Francis o Gymdeithas Eryri

Dywedodd Rory Francis o Gymdeithas Eryri nad oedd syndod fod dros 1000 o bobl wedi gwrthwynebu'r cais hyd yma.

Galwodd cyn y cyfarfod ar holl aelodau'r pwyllgor i "sefyll yn y bwlch i warchod un o rinweddau mwya pwysig Eryri".

"Wrth gwrs mae'n amhosib i wybod o flaen llaw yn union beth fydd unrhyw ymyrraeth hefo afon, ond mi gafodd arolwg mawr ei wneud ar Afon Llech dwi'n meddwl uwchben Bont Ddu ychydig filltiroedd o Gwm Cynfal, cyn iddyn nhw roi cynllun hydro i fewn ac wedyn, a ddaru nhw ddysgu bod amrywiaeth y Bryophytes, llysiau'r afu, wedi dirywio'n sylweddol ar ôl i'r cynllun fynd i fewn," meddai.

Bwriad y cynllun yn ôl y ddogfen gynllunio yw i "gynhyrchu hyd at 600kW i gynnwys pibelli, cored mewnlif, pwll echdynnu, llifddor o dan y ddaear tua 1.2km o hyd, adeilad tyrbin, adeilad mesuryddion, newidiadau i'r mynediad presennol ac ail-osod lleoli mynedfa priffordd bresennol, ardaloedd gosod i lawr, compownd adeiladu dros dro, gwyriad llwybr troed dros dro a chysylltiad pŵer trydan uwchben ac o dan y ddaear i’r grid cenedlaethol".

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.