Newyddion S4C

Dod o hyd i ddyn o Gymru oedd ar goll yn Sbaen

Jason

Mae'r heddlu wedi dweud bod dyn o Gymru wedi dod i'r golwg ar ôl iddyn nhw dderbyn adroddiad ei fod ar goll.

Roedd Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu'r Drenewydd a Llanidloes wedi dweud bod y dyn 36 oed o'r enw Jason Taylor, o Bowys, heb fynd ar awyren o Alicante yn Sbaen, ar fore Sadwrn 29 Mawrth.

Roedd ei ffrindiau wedi gwneud apêl am wybodaeth amdano.

Dywedodd yr heddlu brynhawn ddydd Mawrth ei fod bellach mewn cysylltiad.

"Mae Jason, yr adroddwyd ei fod ar goll yn Sbaen, wedi cael ei ddarganfod ac mae gyda'i deulu," medden nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.