Atal gwaith ar arwyddion Gwyddeleg mewn gorsaf drenau yn Belfast
Mae gwaith dylunio ar arwyddion Gwyddeleg mewn gorsaf drenau yn Belfast wedi ei atal a hynny yn sgil 'camau cyfreithiol posibl' yn ôl gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon.
Cyhoeddodd y Gweinidog Seilwaith Liz Kimmins gynlluniau i gymeradwyo £150,000 ar gyfer gosod arwyddion Gwyddeleg yng ngorsaf newydd Belfast yr wythnos diwethaf.
Mae rhai gwleidyddion yn anfodlon â chost y cynllun.
Mae Dirpwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, Emma Little-Pengelly, o blaid unoliaethol y DUP, wedi dweud y bydd y cynlluniau yn cael eu trafod yn y cyfarfod gweithredol ddydd Iau.
Mae’r penderfyniad wedi achosi dadlau ymysg gwleidyddion, ac mae Ms Little-Pengelly wedi beirniadu'r sefyllfa gan nodi fod hyn yn “gwthio agenda wleidyddol”.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n gofyn cwestiynau” meddai, “mae’n hollol aneglur sut mae’r penderfyniad hwn wedi’i wneud”.
Fe wnaeth hi honni y bydd “llawer o’r £150,000 yn cael ei ddefnyddio i godi arwyddion newydd” i “yrru agenda wleidyddol yn ei blaen” gan Liz Kimmins.
Pwysleisiodd aelod cynulliad Sinn Féin, Declan Kearney, fod "yr iaith Wyddeleg bellach yn ffynnu mewn cymunedau ar draws yr ynys", er gwaethaf "hanes o erledigaeth a gwahaniaethu".
“Mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn y gydnabyddiaeth swyddogol y mae bellach yn ei chael yn ne a gogledd Iwerddon,” meddai wrth gyfeirio at yr arwyddion.
“Mae Sinn Féin yn cefnogi hawliau Gaeilgeoirí (siaradwyr Gwyddeleg) yn llwyr wrth i ni barhau i adeiladu cymdeithas sydd wedi’i seilio ar gynhwysiant, hawliau a pharch at bawb.”
Wrth gyhoeddi’r cyllid ychwanegol, dywedodd Kimmins ei fod yn “ddatblygiad hynod gadarnhaol” oedd yn adlewyrchu’r “gymuned Wyddelig sy’ ffynnu”.
Tra'n siarad yn San Steffan, dywedodd Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon Hilary Benn mai mater i weinidogion a chwmni Translink sy'n gyfrifol am yr orsaf drenau yn Belfast yw hyn.
"Ond rwyf o'r farn y dylid dathlu a pharchu pob iaith a thraddodiad yng Ngogledd Iwerddon," meddai.