Rhybudd fod cŵn yn mynd yn sâl ar ôl ymweld â thraeth yn Sir Gâr
Mae milfeddygon yn rhybuddio bod cŵn wedi mynd yn sâl ar ôl ymweld â thraeth yn Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd un milfeddyg bod un ci wedi marw wythnos diwethaf ar ôl mynd yn sâl ar ôl ymweld â thraeth Llansteffan, a bod achosion eraill o gŵn yn mynd yn sâl iawn.
Nid yw’n glir beth sydd yn achosi’r salwch, ar hyn o bryd, ond mae milfeddygon wedi rhybuddio perchnogion cŵn i fod yn wyliadwrus.
Dywedodd llefarydd ar ran Ysbyty a Chanolfan Filfeddygaeth Caerfyrddin eu bod wedi cael dau achos gwahanol o gŵn yn llewygu ar ôl cyrraedd y syrjeri yn ddiweddar.
Roedd y cŵn yn “ymddangos fel eu bod ag atacsia (ataxia) tra eu bod ar y traeth, yn simsan ar eu traed ac yn crynu”, a’u bod yn “dirywio yn sydyn iawn.”
“Mae gennym gŵn sydd yn sâl iawn ar ôl rhedeg ar draeth Llansteffan. Nid ydym yn gwybod beth yw’r achos ond mae’r symptomau'r un peth â’r unig beth sydd ganddyn nhw'n gyffredin yw eu bod nhw wedi bod i’r traeth.
“Byddwch yn wyliadwrus pan ydych yn mynd â’ch ci am dro, gwnewch yn siŵr nad ydyn nhw’n yfed y dŵr na llyncu unrhyw beth.”
'Gofal'
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Milfeddygfa Bush House yn Ffairfach bod un ci wedi marw ar ôl ymweld â'r traeth.
“Gwyddom fod rhai milfeddygon ar yr arfordir wedi bod yn rhybuddio am y peryglon ar y traethau, yn enwedig traeth Llansteffan," medden nhw.
“Rydyn ni eisiau sicrhau bod perchnogion cŵn yn ymwybodol o hyn.
“Rydyn ni hefyd eisiau atgoffa pawb, ble bynnag rydych chi'n mynd â'ch cŵn am dro, i'w gwylio bob amser a sicrhau nad ydyn nhw'n llyncu nac yn dod i gysylltiad ag unrhyw beth a allai achosi niwed iddyn nhw.
“Mae ein calonnau'n mynd allan i'r holl gŵn a pherchnogion sydd wedi'u heffeithio mewn unrhyw ffordd. Rydym yn erfyn ar bawb i gymryd gofal a bod yn wyliadwrus.”
Llun: Nelson, un o'r cŵn a fu'n sâl. Carmarthen Vetinary Centre and Hospital / Shane Craig