Newyddion S4C

‘Hynod o falch’: Llyfr newydd ‘arloesol’ yn y Gymraeg a BSL

Jac Jones, Manon Steffan Ros a Steph Bailey-Scott
Jac Jones, Manon Steffan Ros a Steph Bailey-Scott

Mae’r awdures Manon Steffan Ros a’r arlunydd Jac Jones wedi creu'r llyfr stori a llun cyntaf o’i fath ar gyfer plant yn y Gymraeg a BSL.

Maen nhw hefyd wedi gweithio gyda’r cyfarwyddwr byddar Stephanie Bailey-Scott o gwmni theatr ieuenctid Taking Flight er mwyn creu fersiwn BSL fideo o’r llyfr.

Mae modd cael mynediad at y fersiwn BSL drwy sganio cod QR ar gefn y llyfr, Amara, sydd wedi cael ei chyhoeddi'r wythnos hon. 

Dywedodd Manon Steffan Ros, awdures y llyfr, bod y prosiect wedi “bod yn bleser llwyr ac yn addysg i mi hefyd”. 

“Mae’n broses sydd wedi bod yn un hir ac yn llawn unigolion a grwpiau oedd yn fodlon rhoi amser ac egni i fy helpu i mi gael y stori’n iawn, a dwi’n werthfawrogol o hynny,” meddai.

“Roedd hi’n bleser cael cydweithio eto efo Jac Jones, a dwi’n hynod falch o’r stori gynnes, annwyl yma.” 

Dywedodd Jac Jones ei bod yn “lyfr pwysig”. “Braint oedd bod yn rhan ohono,” meddai. 

‘Wrth fy modd’

Mae’r gyfrol yn cyflwyno dau gymeriad o leiafrifoedd ethnig gydag un ohonynt yn fyddar. 

Stori sydd yma am gyfeillgarwch rhwng dwy ferch. Mae Femi yn ferch swil sy’n cadw ar yr ymylon, oddi wrth fwrlwm plant y parc. 

Ond, mae hyder merch liwgar, wenog o’r enw Amara yn llwyddo i’w thynnu o’i chragen. 

Caiff Femi ei rhyfeddu gan bwerau arbennig ei ffrind newydd, a’i gallu i gyfathrebu trwy BSL. 

Cafodd ei ysbrydoli gan yr angen am fynediad i adnoddau lle mae’r Gymraeg ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn eistedd ochr yn ochr. 

Mae yna alw mawr am adnoddau o’r fath ar gyfer plant a’u teuluoedd neu warchodwyr yng Nghymru, meddai’r cyhoeddwyr Atebol.

Daeth y wasg, yr Eisteddfod Genedlaethol, Disability Arts Cymru a chwmni theatr Taking Flight at ei gilydd er mwyn gweithio arni. 

Cam cyntaf y prosiect oedd sgyrsiau panel yn y Babell Lên dros ddwy Eisteddfod. 

Yna, comisiynwyd Manon Steffan Ros a Stephanie Bailey-Scott i gynnal gweithdai creadigol gyda phlant a phobl ifanc byddar a thrwm eu clyw gyda chwmni theatr ‘Taking Flight’ er mwyn creu’r storïau. 

Meddai Stephanie Bailey-Scott: “Dwi wedi bod wrth fy modd yn cymryd rhan yn y prosiect, yn arbennig oherwydd y bydd yn arwain at gynrychiolaeth ar gyfer pobl fyddar, pobl drwm eu clyw a phobl sy’n gallu clywed ymysg siaradwyr Cymraeg ifanc. 

“O’r gweithdy gyda Manon Steffan Ros gyda’r Theatr Ieuenctid ac ar gyfer pobl fyddar a thrwm eu clyw hyd at nawr, mae wedi bod yn daith ardderchog. 

“Mae cyfuno BSL â’r Gymraeg o fewn Amara yn rhywbeth i’w ddathlu!” 

‘Gwersi’

Yn ôl Elen Elis, Cyfarwyddwr Artistig Eisteddfod Genedlaethol Cymru, a gafodd y syniad cychwynnol, “mae hi wedi bod yn daith bersonol ddiddorol wrth i mi ddysgu’n fwy penodol am y diffyg dealltwriaeth sy’n bodoli am Iaith Arwyddion Prydain”. 

“Dyma ddechrau trafod i weld sut y gallwn ni yn yr Eisteddfod fynd ati i ddechrau gwneud gwahaniaeth a chyfrannu tuag at drawsnewid pethau,” meddai.

“Mae yna gyffro, a gobeithion mawr y bydd hwn yn paratoi’r ffordd i eraill ddilyn ôl ein traed.” 

Esboniodd golygydd y gyfrol, Sioned Erin Hughes, ar ran Atebol: “Mae’r broses o gydlynu Amara wedi bod mor braf, yn rhannol gan fy mod i wedi cael gweithio efo Manon a Jac - dau dwi’n eu parchu’n fawr. 

“Ond hefyd gan fy mod i wedi cael treulio amser efo Amara a Femi. 

“Yn ffordd ddihafal Manon, mae yna wersi distaw bach yma am ba mor hawdd ydi gwyro at garedigrwydd, ac y dylai dathlu ein gwahaniaethau deimlo fel y peth mwyaf naturiol yn y byd i’w wneud.”

Llun: Jac Jones, Manon Steffan Ros a Steph Bailey-Scott

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.