Tariffau Trump ‘yn debygol’ o daro'r DU meddai Keir Starmer
Mae tariffau Arlywydd yr UDA, Donald Trump yn debygol o daro'r DU meddai’r Prif Weinidog Keir Starmer.
Mae Donald Trump wedi dweud y bydd yn cyhoeddi tariffau eang ar wledydd ar draws y byd ddydd Mercher. Gallai hynny gynnwys treth o 20% ar holl gynhyrchion y DU.
Mae’r bygythiad o dariffau eisoes wedi effeithio ar farchnadoedd ariannol yn UDA a’r DU. Yn ôl rhai economegwyr gallai fod yn ergyd i'w heconomïau ac arwain at ragor o chwyddiant.
Dywedodd Keir Starmer fod ei lywodraeth wedi bod yn ceisio dod i gytundeb economaidd gyda’r Unol Daleithiau. Ei obaith yw amddiffyn busnesau’r DU rhag effeithiau’r tariffau meddai.
Dywedodd y Prif Weinidog wrth Sky News: “Mae'n debygol y bydd yna dariffau. Does neb yn croesawu hynny.
"Rydym yn amlwg yn gweithio gyda'r sectorau a fydd yn cael eu heffeithio fwyaf. Does neb eisiau gweld rhyfel masnach ond mae'n rhaid i mi weithredu er ein budd cenedlaethol."
Mae hynny’n golygu bod “pob opsiwn ar y bwrdd” wrth ymateb i’r tariffau, ychwanegodd.
Mae Mr Trump eisoes wedi cyhoeddi y bydd treth o 25% yn cael ei chyflwyno ar bob car sy’n cael ei fewnforio i’r Unol Daleithiau, mesur a fydd yn ergyd i ddiwydiant ceir y DU.
Roedd tua 16.9% o allforion ceir y DU i’r Unol Daleithiau'r llynedd, werth £7.6 biliwn.