Annog cartrefi i geisio am dariffau sefydlog wedi cynnydd mewn biliau ynni
Mae miliynau o gartrefi wedi cael eu hannog i ystyried symud i dariff sefydlog wrth i’r cynnydd diweddaraf mewn prisiau ynni gyrraedd £1849 y flwyddyn ar gyfartaledd.
Bydd biliau ynni miliynau o gartrefi yn codi 6.4% o ddydd Mawrth, 1 Ebrill, pan fydd Ofgem yn cynyddu ei gap prisiau am y trydydd chwarter yn olynol.
Mae hyn yn gynnydd o £111 y flwyddyn, neu £9.25 y mis.
Bydd biliau dŵr hefyd yn cynyddu £123 y flwyddyn ar gyfartaledd, sef y cynnydd mwyaf ers preifateiddio’r diwydiant ym 1989.
Mae 4 miliwn o gwsmeriaid ynni wedi symud i dariff sefydlog ers cyhoeddiad diwethaf Ofgem ar y cynnydd mewn prisiau ym mis Tachwedd. Daw hyn â’r cyfanswm i 11 miliwn. Mae hynny yn golygu na fydd y cynnydd yn effeithio arnynt.
Dywedodd Ben Gallizi, llefarydd ynni i Uswitch.com, y gallai’r cytundeb sefydlog rhataf ar y farchnad arbed tua £244 y flwyddyn i’r cartref cyffredin o gymharu â chap pris mis Ebrill.
“Ar hyn o bryd, mae rhai o’r arbedion mwyaf rydyn ni wedi’u gweld ar gael ers mis Mawrth 2024,” meddai.
'Chwilio o gwmpas'
Ar hyn o bryd, £1712 yw’r cap prisiau rhagweladwy ar gyfer mis Gorffennaf, sy’n £137 yn is na chap prisiau mis Ebrill.
Dywedodd Golygydd Which? Emily Seymour, bod bargeinion rhatach na chap prisiau Ebrill ar gael, “felly mae’n werth chwilio o gwmpas i weld a allwch chi arbed trwy osod bargen.”
“Byddem hefyd yn argymell cymryd darlleniad mesurydd mor agos at 31 Mawrth â phosibl i sicrhau eich bod yn cael y bil cywir am eich defnydd o ynni,” meddai.
Gyda'r cartref cyffredin eisoes yn gwario £2,062 ar hanfodion bob mis, mae dadansoddwyr yn credu y gallai'r codiadau diweddaraf mewn costau ynni, dŵr a threthi cyngor ychwanegu £49.45 arall at y ffigwr hwn.
Dywedodd Adam Scorer, Prif Weithredwr elusen tlodi tanwydd National Energy Action, ei fod yn “ergyd arall” i’r cartrefi sy’n cael trafferth gyda chostau ynni a hanfodion eraill.
“Nid yw cartref incwm isel sy’n gwario £1,849 y flwyddyn neu fwy ar ynni yn fforddiadwy,” meddai.
Yn ôl y Gweinidog ar gyfer Defnyddwyr Ynni, Miatta Fahnbulleh mae hwn yn gyfnod "pryderus i deuluoedd ar draws Prydain. Dyna pam ein bod yn benderfynol i ddod a'r biliau i lawr yn yr hir dymor."
Dywedodd bod y Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn buddsoddi mewn ynni glan a bod ganddynt fesurau yn eu lle i gefnogi pobl i dalu eu biliau.