Newyddion S4C

Agor cwest dau ddyn ifanc o Wrecsam fu farw mewn gwrthdrawiad

Owen Aaran Jones (chwith) ac Adam Watkiss-Thomas (dde)
Owen Aaran Jones ac Adam Watkiss-Thomas

Fe gafodd cwest ei agor ddydd Llun i farwolaethau dau ddyn ifanc yn eu harddegau mewn gwrthdrawiad beic modur yn hwyr y nos ym Mrychdyn Newydd, Wrecsam.

Dywedodd y crwner Kate Robertson bod Owen Jones, 19 oed, o Ridley View, Wrecsam, wedi cael anafiadau i'w frest a'i wddf, yn ôl patholegydd.

Cafodd Adam Watkiss-Thomas, 18, o Glos y Gweundir, Gwersyllt, anafiadau i'w frest a'i ben.

Fe fuodd y ddau farw ar Ffordd Wrecsam, Brychdyn Newydd, ar Fawrth 22.

Dywedodd y crwner yn Rhuthun fod yr heddlu wedi cael gwybod gan y gwasanaeth ambiwlans am wrthdrawiad beic modur a bod dau ddyn yn anymwybodol. 

Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn cynnal ymchwiliadau pellach.

Mae teyrngedau wedi'u rhoi i'r ddau gan eu teuluoedd.

Mewn teyrnged iddo, dywedodd teulu Owen ei fod yn “llanc poblogaidd” oedd â “gwên a allai oleuo ystafell”.

“Roedd ei ffrindiau a’i deulu yn adnabod Owen fel y person mwyaf doniol a chariadus iddyn nhw ei gyfarfod erioed.

“Bydd colli Owen fel mab, brawd, tad a ffrind yn gadael twll yn ein calonnau i gyd.

“Roedd yn fachgen poblogaidd a gafodd effaith ar bawb y cyfarfu â nhw.

“Ni allai unrhyw eiriau ddisgrifio’r boen o golli Owen.”

'Gwagle enfawr'

Dywedodd teulu Adam Watkiss-Thomas fod eu colled wedi gadael “gwagle enfawr yn ein calonnau”.

 "Daeth i'r byd ar 1 Mai 2006 yn y fath frys. Fe'n gadawodd ni hefyd ar frys, gan wneud yr hyn yr oedd yn ei garu fwyaf.

“Mae’n gadael ei efaill ar ei ôl, sef ei ffrind gorau yn y byd ac roedd y brawd gorau i’w frawd a’i chwaer iau.

“Roedden ni i gyd yn ei garu gymaint a bydd yn gadael gwagle enfawr yn ein calonnau.

“Roedd ganddo'r galon fwyaf a gwnaeth yn siŵr ei fod yn gofalu am ei frodyr a chwiorydd.

“Byddwn ni i gyd yn gweld ei eisiau yn fawr, roedd yn fachgen poblogaidd iawn ac roedd ganddo lawer o ffrindiau oedd yn ei garu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.