Newyddion S4C

‘Cryfder mewn undod’: diwedd ymgyrch yn nesáu i dafarn y Ring

Tafarn y ring

Mae’r llinell derfyn yn agosáu i’r ymgyrch gan fenter gymunedol i brynu tafarn hanesyddol y Ring yn Llanfrothen, Gwynedd.

Mae ymgyrchwyr o gymuned Llanfrothen yn gobeithio prynu prydles Y Brondanw Arms, sy’n cael ei hadnabod fel y Ring, er mwyn rhedeg y dafarn fel menter gymunedol. 

Bydd angen i’r ymgyrchwyr, sef Menter y Ring Cyf, godi £200,000 erbyn hanner nos dydd Llun 31 Mawrth er mwyn gallu ail-agor y drysau ‘fel calon y gymuned’.

Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd y fenter bod £170,000 wedi ei godi hyd yn hyn.

Dywedodd Steffan Smith, sy’n aelod o’r fenter ac wedi byw yn Llanfrothen drwy gydol ei oes, y bydd y £200,000 yn caniatáu iddyn nhw brynu’r brydles a “dechrau’r ffordd y bysan ni eisiau dechrau”.

“Da ni’n gobeithio fydd pobl yn cyfrannu munud olaf a ddim eisiau methu’r cyfle o brynu siâr,” meddai wrth Newyddion S4C.

Mae’n bosib buddsoddi unrhyw swm o £100, i fyny at £20,000, mae pob siâr werth £1, felly’r isafswm ar gyfer cyfranddaliad yw 100 siâr. 

“Mae’n help mawr i’r ymgyrch a mae o’n rywbeth braf i’w wneud i’r wyrion a’r plant," meddai.

‘Mater o reidrwydd’

Yn ôl Steffan, “mater o reidrwydd” oedd prynu’r dafarn fel cymuned.

“’Da ni ‘di cael sawl blwyddyn go anodd efo’r dafarn yn cau ac wedyn ail-agor ac wedyn yn cau eto,” meddai.

“Mae pobl yn ei ffeindio hi’n anodd ei redeg”.

Eglurodd mai prynu’r Ring fel cymuned oedd “yr unig ffordd o sicrhau dyfodol y dafarn”, a “gwneud yn siŵr bod o’n aros ar agor mewn cymuned wledig, fechan”.

“Mae colli tafarn, nei golli unrhyw adnodd o fewn y gymuned yn cael effaith fwy na fysa mewn lle mwy trefol,” meddai.

“Felly ‘da ni ddim eisiau colli’r adnodd eto."

Mae cryn dipyn o waith i'w wneud, ac yn ôl Steffan, mae’r adeilad “angen buddsoddiad”.

“Dydy o’m ‘di cael llawer o fuddsoddiad dros y blynyddoedd – ella bo hi’n gyfnod anodd i bobl roi,” meddai.

“Ac roedd angen criw gwirfoddol i fynd ar ôl y grantiau ac yn y blaen i gael yr adeilad i’r safon mae o angen bod i rywun gael llwyddiant”.

‘Cefnogaeth lawn gan y gymuned’

Daeth dros 200 o bobl ynghyd fis Medi’r llynedd er mwyn sefydlu’r fenter.

“Mae’n glir fod ‘na griw mawr o bobl yn barod i gymryd y berchnogaeth a’r cyfrifoldeb, a sicrhau fod defnydd y dafarn yn cyd-fynd efo defnydd cymuned,” meddai Steffan.

“’Da ni eisiau i bwy bynnag sy’n rhedeg y lle gael cefnogaeth lawn gan y gymuned a medru llwyddo yno."

Y gobaith ydi datblygu’r dafarn i fod yn un “hynod o lwyddiannus," drwy gynnig gofod i’r gymuned, cynnal gigiau, nosweithiau barddoni, sesiynau crefft, adrodd hanes y chwedlau lleol a gwasanaethau eraill i’r gymuned.

Dywedodd Steffan fod angen i’r dafarn fod yn llwyddiannus a gwneud elw er mwyn gallu cynnal y gweithgareddau hyn, a bod angen gwaith mawr i wneud hynny.

Ond mi fydd y canolbwynt ar y “ffordd gymunedol o weithio, ac nid busnes er mwyn gwneud profit – dyna ‘di’r gobaith,” meddai.

‘Cryfder mewn undod’

Mae Tafarn Y Ring yn rhan o Ystâd Brondanw, a gafodd ei sefydlu gan bensaer pentref Eidalaidd Portmeirion, Syr Clough Williams-Ellis.

Fe gafodd Menter Y Ring ei hysbrydoli i achub y dafarn yn dilyn sawl ymgyrch lwyddiannus gan gymunedau eraill i droi eu tafarndai yn fentrau cymunedol.

Mae’r rheini’n cynnwys Tafarn Y Plu yn Llanystumdwy, a Thafarn y Fic yn Llithfaen.

Wrth sôn am y mentrau cymunedol eraill sydd yng Nghymru, dywedodd Steffan eu bod wedi ei “ysbrydoli’n uniongyrchol”, yn enwedig Menter Ty’n Llan yn Llandwrog.

“Daeth Caryl Lewis o Ty’n Llan i’r cyfarfod cyhoeddus cyntaf i egluro i’r gymuned be oedden nhw wedi ei wneud” meddai.

Eglurodd fod hynny wedi “rhoi hyder” i gymuned leol Llanfrothen, gan ei bod wedi dangos eu bod nhw wedi “cerdded y llwybr yn barod a gallu dweud ei fod o’n bosib”.

Ychwanegodd fod gan Menter y Ring “berthynas reit barhaol” efo’r mentrau cymunedol eraill ers ei sefydlu, a’u bod yn gryfder yng Nghymru gan fod cymaint ohonyn nhw.

“’Dwi’n meddwl bod y mentrau’n un o gryfderau o ran lle ‘da ni arni yng Nghymru” meddai, “mae ‘na gryfder mewn undod yn does, mewn cydweithrediad.

“Gobeithio y gnawn ni gyrraedd y targed, a dwi’n edrych ymlaen i ddathlu efo peint cyntaf yn nhafarn rhydd Y Ring - mi fysa hynny’n deimlad da!”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.