Bron i 4,000 o gyn-lowyr yng Nghymru yn cael cynnydd yn eu pensiwn
Bydd bron i 4,000 o gyn-lowyr yng Nghymru yn gweld cynnydd yn eu pensiwn o ddydd Mawrth ymlaen.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth y DU benderfynu trosglwyddo £2.3 biliwn i gynllun pensiwn sydd yn cynrychioli cyn lowyr a'r rhai oedd yn gweithio mewn pyllau glo ym Mhrydain.
Mae'r llywodraeth yn dweud ei fod yn golygu £100 yn fwy ar gyfartaledd yr wythnos.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud yn ystod y Gyllideb y byddai cyn lowyr yn derbyn mwy o bensiwn.
Bydd ôl daliadau yn dyddio yn ôl i fis Tachwedd 2024 pan gafodd y cynllun pensiwn i weithwyr glo ei weithredu. Mae'n golygu cyfandaliad o £5,500 ar gyfartaledd.
Bydd bron i 40,000 o weithwyr oedd yn gweithio yn y maes glo yn elwa gyda 3,876 ohonynt yn dod o Gymru.
Llynedd fe wnaeth y llywodraeth drosglwyddo £1.5 biliwn i aelodau Cynllun Pensiwn Gweithwyr y Pyllau Glo.
Yn ôl y llywodraeth mae'n golygu bod pensiwn ychwanegol wedi ei rhoi i'r holl weithwyr glo oedd yn rhan o gynlluniau pensiwn gwahanol.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens bod yr "anghyfiawnder pensiynau ar gyfer miloedd o gyn weithwyr y pyllau glo o'r diwedd wedi eu hunioni".
"Fe fydden ni yn hoffi cydnabod ymdrech y rhai sydd wedi ymladd am nifer o flynyddoedd i wneud yn siŵr bod gweithwyr y pwll glo yn cael yr hyn maen nhw yn haeddu," meddai.
Yn ôl cadeirydd ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn Staff Pyllau Glo, Cheryl Aguis mae hon yn "foment hanesyddol".
Ychwanegodd bod y llywodraeth "wedi gwrando".
"Mae ein haelodau wedi bod yn allweddol yn ein helpu i godi'r mater yma gyda'r llywodraeth dros y 12 mis diwethaf ac fe fyddai'r Ymddiriedolwyr yn hoffi diolch iddynt am eu cefnogaeth," meddai.