
Lansiad Gwobrau Cerddoriaeth Du Cymreig am y tro cyntaf
Lansiad Gwobrau Cerddoriaeth Du Cymreig am y tro cyntaf
Mae Gwobrau Cerddoriaeth Du Cymreig (GCDC) wedi'i lansio am y tro cyntaf erioed.
Pwrpas y gwobrau yw ceisio ‘dathlu’r rhagoriaeth mewn cerddoriaeth o darddiad du’.
Maen nhw’n anrhydeddu mathau gwahanol o gerddoriaeth fel jazz, rap, grime, cerddoriaeth iaith Gymraeg a llawer mwy.
Dywedodd Natalie Jones, Aelod o fwrdd GCDC, “Mae’r [gwobrau] yn hynod o bwysig, achos weithiau dydy pobl ddu ddim wedi cael y clod, na’r sylw maen nhw’n haeddu.”
Ychwanegodd, “Mae’n rili bwysig bod pawb yn teimlo bod yna le iddyn nhw yng Nghymru.”

Wrth sôn am y sîn gerddoriaeth yng Nghymru, dywedodd y gantores ac aelod o Bwyllgor Ymgynghorol y GCDC, Kizzy Crawford, “mae’r sîn miwsig Cymraeg jyst yn llawn genres gwahanol.”
“Fi ‘di bod i sawl gig dros y misoedd diwethaf a gweld gymaint o amrywiaeth… ma’ fe jyst yn wych i weld.”

Hefyd yn bresennol oedd Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, ac fe ddywedodd fod y digwyddiad hwn yn “agor y drws i bobl mor dalentog.”
“Mae’n [dangos] yr amrywiaeth sydd gyda ni yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae hynny’n rhywbeth pwysig i ni gyd.”

Mi fydd y Gwobrau yn cael eu cynnal ym mis Hydref eleni yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Rhai o’r categorïau ydy Artist Newydd Gorau, Albwm y Flwyddyn a Thrac Iaith Gymraeg Gorau, ac mae’r enwebiadau bellach ar agor.