Galw ar Eluned Morgan i gyhoeddi llythyr am effaith newidiadau i’r system fudd-dal ar Gymru
Mae’r gwrthbleidiau wedi galw ar y Prif Weinidog, Eluned Morgan, i gyhoeddi llythyr am effaith newidiadau i'r system fudd-daliadau ar Gymru.
Yn y Senedd bythefnos yn ôl dywedodd Eluned Morgan ei bod hi wedi cysylltu â’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Liz Kendall yn gynharach yn y mis.
Roedd hi wedi gofyn a oedd Llywodraeth y DU wedi gwneud asesiad o effaith eu newidiadau i fudd-daliadau ar Gymru, meddai.
Mae Liz Kendall wedi cyhoeddi cynigion gyda’r nod o arbed £5bn o’r arian sy’n cael ei wario ar fudd-daliadau erbyn diwedd 2030.
Ond mae yna bryderon y gallai’r newidiadau olygu bod rhagor o bobl anabl yn byw mewn tlodi.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth eu bod nhw bellach wedi derbyn ateb i'w cais am fwy o wybodaeth am effaith y cynigion ar Gymru, ond nad eu cyfrifoldeb nhw oedd cyhoeddi'r llythyr.
“Cyfrifoldeb Swyddfa’r Ysgrifennydd Gwladol yw rhyddhau’r llythyr, nid ni (am nad ni wnaeth ei anfon),” meddai llefarydd ar ran y Prif Weinidog.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth bod gwrthod cyhoeddi llythyr yn “rhoi buddiannau pleidiol o flaen lles y wlad”.
“Addawodd y Prif Weinidog y byddai tryloywder yn rhan bwysig o’i llywodraeth - ond o gael y cyfle i fod yn agored am effaith y toriadau lles ar Gymru, mae’n dewis cyfrinachedd yn lle hynny,” meddai.
"Y gwir amdani yw y bydd miloedd o bobl yng Nghymru yn cael eu taro'n galed gan y toriadau dinistriol hyn.”
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Darren Millar bod y blaid Lafur yng Nghymru a San Steffan yn “gweithredu'n gyfrinachol”.
“Mae gan bobl Cymru hawl i weld y llythyr,” meddai.