Newyddion S4C

Beirniadu Cyngor Conwy am fethu ymchwilio i Air BnBs

Golwg 360 31/07/2021
Conwy

Mae Cyngor Sir Conwy wedi ei feirniadu am fethu ag ymchwilio i gartrefi sy’n cael eu defnyddio ar gyfer eu llogi ar wefan Air BnB.

Clywodd un o bwyllgorau'r Cyngor fod lleoliadau Air BnB yn y sir wedi cynyddu o 135 yn 2016 i 1,627 yn 2019, yn ôl Golwg360.

Dywedodd un cynghorydd: "Mae’r bobl hyn sydd â’r lletyau hyn yn gallu osgoi’r gyfraith a gwneud ffyliaid ohonom ni ar y cyngor".

Fe wnaeth arweinydd y cyngor addo rhannu adroddiad gan Dr Simon Brooks sy'n gwneud awgrymiadau i daclo problem ail gartrefi.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.