Newyddion S4C

Heddlu'n parhau i ymchwilio wedi i gerrig beddi gael eu difrodi yn y gogledd

Cerrig beddi wedi eu difrodi
Cerrig beddi wedi eu difrodi

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i ymchwilio wedi i nifer o gerrig beddi gael eu difrodi.

Mewn datganiad dywedodd y llu eu bod yn dal i gynnal ymholiadau i'r digwyddiad yng Nghei Connah yn Sir Y Fflint.

Fe gafodd lluniau eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos nifer o gerrig beddi a photiau blodau wedi eu dinistrio a'u taflu ar y llawr. 

Mae un person wedi ei arestio mewn cysylltiad gyda'r digwyddiad.

Dywedodd yr heddlu: "Mae’r ymchwiliad i’r digwyddiad hwn yn mynd rhagddo, ac er na allwn ddarparu manylion penodol ar hyn o bryd, rwyf am eich sicrhau ein bod yn ymchwilio'n drylwyr i bob trywydd ymholi."

Ers y digwyddiad mae'r heddlu wedi lansio ymgyrch i godi arian i'r teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan y difrod.

Maen nhw wedi codi dros £3,000 hyd yn hyn. Mae'r llu hefyd yn gobeithio codi mwy mewn gêm bêl-droed rhwng Clwb Heddlu Wrecsam a Talking Toffees yn Ysgol Clywedog ar 6 Ebrill.

Dywedodd llefarydd ar ran y llu y byddai'r arian yn cael ei  "rannu'n deg rhwng y rhai sydd wedi cael eu heffeithio.

"Rydym wir yn gobeithio y bydd yr arian yn rhoi cymorth i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.