Newyddion S4C

'Angen addysgu'r di-Gymraeg am ystyr enwau lleoedd yng Nghymru'

Newyddion S4C

'Angen addysgu'r di-Gymraeg am ystyr enwau lleoedd yng Nghymru'

Mae angen gwneud mwy i addysgu pobl ddi-Gymraeg am darddiad ac ystyr enwau lleoedd yng Nghymru er mwyn eu diogelu, medd un dylanwadwr.

Wedi dysgu Cymraeg ei hun, mae Josef Roberts o Hen Golwyn yng Nghonwy bellach yn treulio’i amser yn creu cynnwys digidol ar Facebook a Tik Tok dan enw ‘Tirlun’  sy’n nodi ystyr enwau trefi a phentrefi drwy Gymru.

Gyda miloedd bellach wedi gwylio’r cynnwys, mae’n mynnu bod addysgu pobl ddi-Gymraeg am ystyr enwau yn holl bwysig er mwyn atal pobl rhag stopio eu defnyddio neu eu newid ar lafar.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd gwaith ymchwil yn cael ei gyhoeddi’n fuan sy’n edrych ar sut orau i ddiogelu enwau lleoedd a’u cymunedau.

Wedi’w fagu ym mhentref Hen Golwyn, ac er fod gan ei daid ychydig o Gymraeg, cafodd Josef Roberts, 32, fagwraeth uniaith Saesneg.

Ond ar ôl treulio pum mlynedd yn byw yn Tsieina gan weithio ym maes marchnata, roedd awydd arno i ddod adref i ogledd Cymru ac roedd yn benderfynol o ddysgu’r Gymraeg.

Gan gymryd diddordeb mewn tarddiad ac hanes enwau lleoedd fel modd o ddysgu’r iaith, mae o bellach wedi rhoi’r gorau i’w swydd ac yn blogio’n llawn amser ar Tik Tok a Facebook gan geisio lledaenu ymwybyddiaeth tarddiad enwau.

“Dwi di sylwi bod na lawer o bobl sy’n byw yma yng Nghymru sydd ddim yn deall enwau y lleoedd o’u cwmpas,” meddai.

“Roeddwn i’n meddwl felly os dwi jest yn egluro, fe allai cysylltu’r iaith a diwylliant Cymru a phobl Cymru.

Image
TikToks Josef Roberts

O Gonwy, i Sir y Fflint a draw i Fôn mae Josef wrthi’n crwydro’r gogledd yn ôlrhain tarddiad enwau pentrefi a threfi.

“Dwi’n ceisio drwy fy fideos byr i newid pethau,” meddai.

“Dwi’n credu os bydd pobl yn deall ystyr yr enwau bydd pobl yn gwerthfawrogi nhw ac os ti’n cysylltu pobl i’r iaith fel hyn, dwi’n gobeithio y bydd o’n annog pobl eraill.”

Gyda sawl corff cyhoeddus fel Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri bellach wedi cyhoeddi mai enw uniaith Gymraeg fydd ar eu sefydliadau mae Josef yn dweud mai normaleiddio’r iaith sy’n bwysig.

Gan ddweud bod angen mwy o bwyslais ar ddysgu bobl ddi-Gymraeg, mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod bod enwau felly yn “rhan o hanes cyfoethog ein tirwedd a’n cymunedau”.

“Rydyn ni’n gweithio'n gydag ystod o bartneriaid, o brosiectau mapio i Awdurdodau Lleol i Barciau Cenedlaethol, i gofnodi, diogelu a hyrwyddo'r enwau hyn, gan gefnogi eu defnydd mewn lleoliadau eiconig fel parciau cenedlaethol byd-enwog Eryri a Bannau Brycheiniog,” meddai llefarydd.

“Bydd ymchwil yn cael ei gyhoeddi'n fuan a fydd yn gwella ein dealltwriaeth o sut mae enwau lleoedd yn cael eu defnyddio ac yn newid yn ein cymunedau. Dyma fydd sail unrhyw weithredu pellach i warchod a hyrwyddo ein cyfoeth o enwau Cymraeg.”

Bwriad Josef rŵan yw parhau gyda’r fenter gan ddweud ei fod yn awyddus i ymweld â phob rhan o Gymru i greu cynnwys tebyg.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.