Pedair menyw o Sir Benfro'n creu hanes wedi rhwyfo'r Iwerydd

Mae tîm o bedair menyw o Sir Benfro wedi creu hanes, ar ôl cwblhau taith rwyfo o 3,200 milltir ar draws yr Iwerydd mewn 53 diwrnod yn unig.
Roedd y menywod wedi teithio o Lanzarote i Antigua, ac fe wnaeth eu taith dorri dwy record byd.
Janine Williams, 70, yw’r person hynaf yn y byd i rwyfo cefnfor yr Iwerydd, a Sophie Pierce, 32, yw’r person cyntaf â Ffibrosis Systig i gyflawni’r gamp honno.
Gyda'u cyd-rwyfwyr Polly Zipperlen, 50, a Miyah Periam, 24, mae'r merched yn aelodau o Glwb Rhwyfo Neyland.
Yn eu cwch rwyfo 10-metr o'r enw 'Spirit of Bluestone', roedd y tîm yn rhwyfo mewn shifftiau rownd y cloc, gan oedi yn unig i fwyta gyda'i gilydd neu gysgodi rhag tonnau pedwar metr o uchder.
Fe wnaethant fyw ar 1,000 o brydau bwyd a dibynnu ar beiriant puro dŵr ac oergell i storio meddyginiaeth Ffibrosis Systig Sophie.
Llun: Cruising Free Ladies