Newyddion S4C

Cyn-Archesgob Caergaint yn 'maddau' i'r troseddwr rhyw John Smyth

Justin Welby

Mae cyn-Archesgob Caergaint, Justin Welby, wedi dweud ei fod yn maddau i'r bargyfreithiwr a'r troseddwr rhyw John Smyth.

Fe gafodd adolygiad annibynnol Makin ei gyhoeddi ar 7 Tachwedd, gan ddatgelu bod Smyth wedi cam-drin hyd at 130 o fechgyn mewn tair gwlad.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad y gallai Smyth fod wedi wynebu cyfiawnder pe bai Mr Welby wedi rhoi gwybod i'r heddlu yn swyddogol yn 2013.

Fe wnaeth Mr Welby ymddiswyddo o'i swydd fel Archesgob Caergaint ym mis Tachwedd yn dilyn cyhoeddiad yr adroddiad.

Dywedodd Mr Welby i ddechrau na fyddai'n ymddiswyddo oherwydd yr adroddiad ac arhosodd yn ei swydd am bum niwrnod arall cyn rhoi'r gorau iddi.

Cyn iddo ymddiswyddo, dywedodd Mr Welby ar y pryd nad oedd wedi "meddwl digon am y peth a dweud y gwir".

Yn ôl yr adroddiad, roedd Smyth wedi cynnal ymosodiadau rhywiol, corfforol, seicolegol ac ysbrydol "trawmatig" mewn gwersylloedd haf Cristnogol yn yr 1980au a'r 1990au, a hynny tra'n gweithio i'r elusen Gristnogol Iwerne Trust.

Yn ei gyfweliad cyntaf ers ei ymddiswyddiad, dywedodd Mr Welby wrth raglen Sunday With Laura Kuenssberg y BBC: "Yr hyn a newidiodd fy meddwl oedd cael fy nal gan yr adroddiad yn cael ei rannu heb ganiatâd pan doeddwn i heb feddwl digon am y peth a dweud y gwir.

"Dros y penwythnos hwnnw, wrth i mi ei ddarllen a’i ail-ddarllen ac wrth i mi fyfyrio ar ddioddefaint erchyll y goroeswyr a oedd, fel dywedodd nifer ohonyn nhw, wedi mwy na dyblu yn sgil methiant yr Eglwys sefydliadol i ymateb yn ddigonol, daeth yn fwyfwy amlwg i mi fod angen i mi ymddiswyddo."

Dywedodd Mr Welby hefyd yn y cyfweliad ddydd Sul ei fod yn maddau i Smyth am gam-drin y bechgyn.

"Byddwn, dwi’n meddwl pe byddai'n fyw a pe bawn yn ei weld," meddai pan ofynnwyd iddo a yw’n maddau i’r bargyfreithiwr sydd bellach wedi marw.

"Ond nid, nid fi y mae wedi ei gamdrin. Mae o wedi camdrin y dioddefwyr a'r goroeswyr. Felly, i raddau helaeth, mae'n amherthansol os rwy'n maddau ai peidio."

Pan ofynnwyd iddo a oedd o eisiau maddeuant gan ddioddefwyr Smyth, dywedodd Mr Welby: "Yn amlwg, ond nid yw'n ymwneud â mi. 

"Pan fyddwn yn siarad am ddiogelu, y dioddefwyr a'r goroeswyr sydd wrth galon hynny."

'Trawmatig'

Dywedodd na fyddai byth yn gofyn am faddeuant gan oroeswyr y gamdriniaeth, gan mai dyna "eu dewis unigol sofran, absoliwt".

Wrth ailadrodd ei ymddiheuriad i'r dioddefwyr, dywedodd Mr Welby: "Dim ond er mwyn osgoi amheuaeth, mae’n ddrwg iawn gen i ac rwy'n teimlo ymdeimlad dwfn o fethiant personol i ddioddefwyr Smyth am beidio â chael eu codi’n ddigonol ar ôl 2017 pan oeddem yn gwybod ei faint, ac am fy methiannau personol fy hun."

Dywedodd un o ddioddefwyr Smyth, sy’n cael ei adnabod fel Graham, wrth y BBC bod "yr hyn y mae’r Eglwys wedi fy rhoi drwyddo [ers cyflwyno honiadau o gam-drin] yn gwneud y cam-drin hanesyddol ymddangos yn ddibwys".

Ychwanegodd mai ceisio cael atebion a chefnogaeth oedd "y daith fwyaf rhyfeddol, drawmatig".

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Yvette Cooper, ei bod yn ei chael hi’n "anodd iawn maddau i droseddwyr ofnadwy" pan holwyd hi am Mr Welby.

Pan ofynnwyd iddi a fyddai cael cyfraith adrodd orfodol ar waith wedi arwain at erlyn Mr Welby dros achos Smyth, dywedodd Ms Cooper: "Byddai’n dibynnu ar fanylion achos, ond os yw sefydliad neu unigolyn yn rhwystro’r broses o adrodd am gam-drin plant, ac yn ei guddio i bob pwrpas, yna mae hynny’n dod yn drosedd."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.