Dyn 18 oed wedi ei arestio ar ôl i berson farw mewn gwrthdrawiad yn y canolbarth
Mae dyn 18 oed wedi cael ei arestio ar ôl i berson farw mewn gwrthdrawiad yn y canolbarth.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad ffordd a ddigwyddodd ar yr A483 yng Nghei'r Trallwng, ym Mhowys, am 18:50 ddydd Sadwrn.
Roedd car Volkswagen porffor wedi gwrthdaro gyda char Mini gwyn ar y ffordd.
Bu farw gyrrwr y Mini gwyn yn y fan a'r lle. Mae teulu'r person wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Cafodd un o'r teithwyr oedd y Volkswagen eu cludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr gydag anafiadau sydd yn peryglu bywyd.
Fe gafodd gyrrwr y Volkswagen a pherson arall oedd yn teithio yn y cerbyd eu cludo i'r ysbyty hefyd, gydag anafiadau nad yw'n peryglu bywyd.
Mae dyn 18 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw un oedd yn teithio ar y ffordd ar adeg y gwrthdrawiad, neu sydd â lluniau 'dashcam', i gysylltu ar eu gwefan neu drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod DP-20251011-287.