Heriau 'cymhleth, dwfn a hirhoedlog' yn Esgobaeth Bangor medd Archesgob Cymru

Cherry Vann

Mae Archesgob Cymru wedi siarad am yr heriau "cymhleth, dwfn a hirhoedlog" sydd yn bodoli yn Esgobaeth Bangor.

Anerchodd yr Archesgob Cherry Vann Gynhadledd Esgobaeth Bangor dros y penwythnos, gan gydnabod yr heriau cymhleth sy'n wynebu'r Esgobaeth yno.

Daw ei sylwadau wedi cyfnod cythryblus i'r Gadeirlan a'r Esgobaeth, gydag adroddiadau o gamymddwyn arweiniodd at ymddeoliad sydyn Esgob Bangor ac Archesgob Cymru, Andy John, ddiwedd mis Mehefin. 

Does dim awgrym bod y cyn-Archesgob ei hun wedi camymddwyn.

Mae côr y Gadeirlan hefyd wedi eu gwahardd am gyfnod wedi iddyn nhw ganu cân o brotest a gadael gwasanaeth yn gynnar ddiwedd mis Awst.

Wrth siarad â chlerigwyr ac aelodau lleyg, tynnodd yr Archesgob Vann gymariaethau â'i phrofiad yn Esgobaeth Mynwy, lle cyrhaeddodd yn 2020 i ganfod cymuned yn delio â "thrawma a theyrngarwch rhanedig."

"Mae'r heriau yn gymhleth, yn ddwfn ac yn hirhoedlog a byddant yn cymryd amser hir i'w datrys a delio â nhw'n briodol," meddai wrth y gynhadledd. 

'Trawma'

Yn ei Hanerchiad Llywyddol, dywedodd Archesgob Cymru: "Wrth i mi gyrraedd Esgobaeth Mynwy yn gynnar yn 2020, roedd yr esgobaeth mewn trawma. Roedd yn argyfwng gwahanol i’r un yr ydych chi’n ei wynebu yma ym Mangor, ond trawma oedd hi beth bynnag. 

"Yr oedd yr esgob wedi camu’n ôl o’r weinidogaeth ym mis Gorffennaf 2018 am resymau na wyddai neb amdanynt ac eithrio tri o’i gydweithwyr uwch, ac yr oedd wedi bod yn absenol am flwyddyn cyn ymddeol yn y pen draw. 

"Nid oedd y mwyafrif helaeth o bobl yn ymwybodol beth yn union a ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn honno, nac ychwaith pam. Rhai yn dyfalu, a sïon yn rhedeg yn wyllt. Rhai’n flin, eraill yn drist, ond eraill yn ddifater.

"Ond yr hyn a adawyd iddynt oedd esgobaeth â theyrngarwch wedi’i hollti ac â diffyg ymddiriedaeth ddwfn – rhyngddynt eu hunain, rhwng eglwysi a’r tîm uwch, rhwng clerigwyr a’r Fainc a’r Bwrdd Esgobaethol. Yr hyn a ddarganfyddais, a’r hyn a ddatgelsom gyda’n gilydd, oedd elfennau o drawma a oedd yn llawer ddyfnach na diflaniad yr esgob."

Ychwanegodd: "Yn yr un modd, rydym yn darganfod yn y fan hyn pethau sy’n mynd yn ôl ymhell cyn y 18 mis diwethaf. Mae’r heriau’n gymhleth, yn ddwfn eu gwreiddiau ac wedi bod yn bodoli ers tro byd, ac fe gymerant amser hir i’w datod a’u hwynebu’n briodol."

Aeth ymlaen i ddweud mai'r bwriad oedd cydweithio "i sicrhau dyfodol ffyddlon, gobeithiol a ffrwythlon i Esgobaeth Bangor."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.