
Cymru'n colli 2-4 yn erbyn Gwlad Belg yng Nghaerdydd
Colli oedd hanes Cymru yn erbyn Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Lun yn y gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2026, a hynny o 2-4.
Mae'r canlyniad yn ergyd sylweddol i obeithion Cymru o gymhwyso yn awtomatig, gan eu bod bellach yn y trydydd safle yn Grŵp J ar 10 pwynt, ac yn wynebu gorfod chwarae gemau ail gyfle os nad ydynt yn sicrhau'r ail safle.
Gwlad Belg sydd ar frig y grŵp gyda 14 o bwyntiau a Gogledd Macedonia'n ail ar 13 o bwyntiau.
Roedd Gwlad Belg yn teithio i Gaerdydd yn dilyn gêm gyfartal 0-0 gartref yn erbyn Gogledd Macedonia ddydd Gwener.
I'r Cymry, roedd y noson yn gyfle i anghofio am ganlyniad siomedig y gêm gyfeillgar yn erbyn Lloegr yn Wembley nos Iau, pan gollodd y crysau cochion 3-0.
100 o gapiau
Roedd y gêm nos Lun yn achlysur nodedig i gapten Cymru, Ben Davies, oedd yn ennill ei 100fed cap dros ei wlad.
Yn annisgwyl, dewisodd prif hyfforddwr Cymru, Craig Bellamy, gadw Kiefer Moore a Brennan Johnson ar y fainc, gan ddechrau gyda Mark Harris o glwb Rhydychen yn lle Moore.
Daeth cyfle cyntaf y noson i Gymru ar ôl gwrth-ymosod gyda Harris bron a llywio'r bêl i rwyd yr ymwelwyr yn dilyn pas gelfydd gan Brooks.
Yn fuan wedyn fe faglodd Brooks yn y cwrt cosbi a bu bron i Wlad Belg sgorio gôl i'w rhwyd eu hunain.
Cymru oedd yn pwyso yn y munudau cyntaf, ac fe dalodd y pwysau ar ei ganfed ar ôl saith munud o chwarae.

Rodon yn rhoi Cymru ar y blaen
Cic gornel gan Sorba Thomas, a'r bêl yn darganfod pen Rodon cyn cael ei hanelu i gefn y rhwyd. Cafodd y gôl ei gwirio gan VAR am gansefyll ond doedd dim newid yn y pen draw. 1-0 felly i Gymru.
Aeth enw Harry Wilson i lyfr y dyfarnwr wedi 12 munud ac fe gafodd gerdyn melyn am dacl fler.
Wedi chwarter awr o chwarae, fe gafodd Gwlad Belg gic o'r smotyn ar ôl i Ethan Ampadu lawio'r bêl yn y cwrt cosbi.
Dwy gôl i'r ymwelwyr
Kevin De Bruyne sgoriodd o'r smotyn i'r crysiau gleision, a'r fantais i Gymru ar ben. Cymru 1-1 Gwlad Belg.
Hanner ffordd drwy'r hanner cyntaf ac fe aeth Gwlad Belg ar y blaen wedi chwip o gôl gan Meunier, gyda'i ergyd o ochr y cwrt cosbi. Cymru 1-2 Gwlad Belg.
Bu ond y dim i Gymru sgorio ddau funud cyn yr hanner - Jordan James yn ergydio'n isel a chaled, ac yna Harry Wilson yn gweu y bêl ar draws wyneb y gôl, ond doedd neb yno i'w hanfon i gefn y rhwyd.
Cymru 1-2 Gwlad Belg ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Dechreuodd Gwlad Belg yr ail hanner yn llawn hyder.
Wedi 50 mund fe aeth enw Ben Davies i lyfr y dyfarnwr ac fe gafodd gerdyn melyn.
Roedd Cymru'n brwydro'n ôl yn araf gydag ymosodiadau i lawr yr esgyll.
Wedi 58 o funudau fe ddaeth Brennan Johnson ar y cae gyda Brooks yn gadael. Cafodd Maxim De Cuyper ei eilyddio gyda Timothy Castagne yn dod i'r cae hefyd i Wlad Belg.
Cafodd Meunier gerdyn melyn am oedi cyn tafliad, cyn i ymwelydd annisgwyl ddod i'r cae wedi 65 munud. Llygoden fawr oedd yr ymwelydd hwnnw ac fe fu ysbaid yn y chwarae er mwyn i'r llygoden adael y cae.
Wedi 69 o funudau bu'n rhaid i Karl Darlow wneud arbediad pwysig - a funud yn ddiweddarach bu'n rhaid i Ben Davies adael y cael gydag anaf. Daeth Nathan Broadhead ymlaen yn ei le.
Cic arall o'r smotyn
Aeth y gêm ar chwal i Gymru wedi 73 o funudau ar ôl i Jordan James lawio'r bêl yn y cwrt cosbi. Kevin De Bruyne yn sgorio o'r smotyn am yr eilwaith ar y noson a'r ymwelwyr ar y blaen o dair gôl i un.
Fe eilyddiodd Gwlad Belg dri chwaraewr gyda 10 munud yn weddill o'r gêm - Malick Fofana yn dod ar y cae yn lle Charles De Ketelaer, Axel Witsel am Kevin De Bruyne a Brandon Mechele ar y cae am Arthur Theate.
Gyda phum munud yn weddill daeth Kiefer More ymlaen am James a daeth Dasilva i'r cae yn lle Harris.
Daeth llygedyn o obaith i Gymru gyda dau funud yn weddill - Kiefer Moore yn bwydo pas i Nathan Broadhead i sgorio, gan gadw gobeithion Cymru yn fyw.
Ond eiliadau'n ddiweddarach - torcalon i'r Wal Goch gyda Trossard yn rhwydo pedwaredd gôl y noson i'r ymwelwyr.
Y canlyniad ar y chwiban olaf: Cymru 2-4 Gwlad Belg.
Y gemau sy’n weddill yn yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd yw Liechtenstein oddi cartref ar 15 Tachwedd, a gêm gartref yn erbyn Gogledd Macedonia ar 18 Tachwedd.
Cymru: Darlow; Williams, Rodon, Cabango, B. Davies; Ampadu, James; Brooks, Wilson, Thomas; Harris.
Ar y fainc: A. Davies, King, Mepham, Dasilva, Kpakio, Sheehan, Cullen, R. Colwill, Johnson, Koumas, Broadhead, Moore.
Lluniau: Cymdeithas Bêl-droed Cymru