Daeargryn Myanmar: Rhybudd am 'brinder difrifol' o gyflenwadau meddygol
Daeargryn Myanmar: Rhybudd am 'brinder difrifol' o gyflenwadau meddygol
Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio bod prinder difrifol o gyflenwadau meddygol yn eu rhwystro rhag darparu cymorth yn Myanmar ar ôl i ddaeargryn nerthol daro'r wlad.
Fe wnaeth y daeargryn, oedd yn mesur 7.7 ar y raddfa Richter, daro'r wlad fore Gwener.
Mae dros 1,600 o bobl wedi marw a bron i 3,500 wedi'u hanafu, ac mae tua 140 o bobl eraill ar goll.
Mae'r daeargryn wedi achosi difrod difrifol i seilwaith y wlad, gan gynnwys ei ffyrdd a'i rhwydweithiau cyfathrebu.
Mae hyn, ynghyd â rhyfel cartref rhwng y llywodraeth filwrol, grwpiau gwrthryfelwyr a’r lluoedd arfog, wedi’i gwneud hi’n anodd i sefydliadau ddarparu cymorth.
Dywedodd Marcoluigi Corsi, Cydlynydd Preswylwyr a Chymorth Dyngarol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Myanmar, y gallai hyd at 20 miliwn o bobl fod wedi cael eu heffeithio gan y daeargryn.
"Mae’r ardal sydd wedi’i heffeithio yn eithaf mawr, ac rydym yn amcangyfrif bod tua 20 miliwn o bobl yn byw yn yr ardal honno,” meddai Corsi wrth UN News.
"Ar hyn o bryd, o ran anafiadau, mae’r niferoedd yn dal i gynyddu."
Dywedodd llywodraeth filwrol Myanmar ei bod wedi datgan cyflwr o argyfwng yn Rhanbarth Sagaing, Rhanbarth Mandalay, Rhanbarth Magway a gogledd-ddwyrain Shan State, Ardal Cyngor Nay Pyi Taw, a Rhanbarth Bago.
"Mae'r llywodraeth wedi gorchymyn ymchwiliad cyflym i'r difrod yn yr ardaloedd hyn," meddai'r llywodraeth mewn datganiad.
"Byddwn yn darparu cymorth ar unwaith. Byddwn hefyd yn gweithio i ddarparu cymorth trychineb angenrheidiol a chymorth dyngarol."
Roedd canolbwynt y daeargryn ger dinas Monywa ym Myanmar.
Ond mae cryniadau'r daeargryn wedi effeithio ar wledydd cyfagos hefyd, gan gynnwys prifddinas Bankgkok yng Ngwlad Thai.
Yno mae o leiaf 11 o bobl wedi marw ac mae dwsinau o adeiladwyr yn dal ar goll ar ôl i dwr ddymchwel yn Bangkok.
Llun: Sai Aung Main / AFP