Newyddion S4C

Cymru'n colli'n drwm yn erbyn Lloegr yn y Chwe Gwlad

Menywod Cymru yn y Chwe Gwlad

Colli'n drwm oedd hanes menywod Cymru yn y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, a hynny o 12-67.

Doedd Cymru heb guro'r Saeson ers degawd, ac fe fydd yr aros yn parhau ar ôl y golled yn erbyn y tîm sydd yn y safle cyntaf ar restr detholion y byd.

Dechreuodd tîm Sean Lynn y prif hyfforddwr yn gadarn yn Stadiwm Principality, gyda chais Jenni Scoble yn rhoi'r crysau cochion ar y blaen wedi chwe munud o chwarae.

Ond byr oedd y gorfoledd gyda Lloegr yn taro'n ôl gan sgorio pedwar cais yn yr hanner cyntaf - y cyntaf yn dod i Maddie Feaunati wedi 11 munud.

Roedd 21,000 yn gwylio yn y dorf, sydd yn record i unrhyw ddigwyddiad chwaraeon menywod yng Nghymru.

Fe welsant ail gais Lloegr yn fuan ar ôl y cyntaf - gyda Meg Jones yn dyblu mantais y rhosys cochion.

O ddrwg i waeth

Aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru wrth i Loegr lwyr reoli'r chwarae.

Cawsant eu trydydd cais gyda 19 munud ar y cloc - Sarah Bern y tro hwn yn hawlio'r pwyntiau.

Maddie Feaunati holltodd amddiffyn Cymru ychydig cyn hanner awr o chwarae gan sgorio pedwerydd cais yr ymwelwyr. 

Cymru 7-26 Lloegr oedd y sgôr ar yr hanner gyda Lloegr wedi sicrhau pwynt bonws.

Parhau wnaeth y pwysau ar ddechrau'r ail hanner a buan iawn y gwnaeth Lloegr fanteisio gyda chais arall. Ellie Kildunne yn hawlio'r pwyntiau y tro hwn ar ei 50fed ymddangosiad i'w gwlad.

Cafodd Kildunne gais arall yn fuan wedyn gan gynyddu mantais yr ymwelwyr - Cymru 7-Lloegr 38. Methodd Harrison gyda'i hymgais i drosi.

Hatric i Kildunne

O fewn munudau'n unig fe gafodd Kildunne hatric o geisiadau wrth i Loegr redeg ar garlam drwy amddiffyn Cymru - gan lwyr reoli'r chwarae. Cymru 7-43 Lloegr. 

Yn erbyn llif y chwarae, wedi 58 o funudau fe lwyddodd Cymru i sgorio eu hail gais ar ôl cyfnod o chwarae hyfryd - Kate Williams yn croesi ar yr ochr dywyll. 

Roedd mantais gyfforddus gan Loegr yn parhau gyda'r sgor yn Cymru 12-43 Lloegr - ond roedd y bwlch ychydig yn fwy parchus.

Daeth Courtney Keight a Bryonie King ar y cae i Gymru wedi 62 o funudau. 

Wedi 68 munud fe sgoriodd Abby Dow gais i Loegr gan ymestyn y fantais.

Cafodd y fantais honno ei hymestyn yn bellach fyth gan Abi Burton yn fuan wedyn - cais gyntaf a chap cyntaf iddi hi, a'r nawfed i'r Saeson. 

Dair blynedd yn ôl roedd Burton mewn coma yn yr ysbyty gydag anaf ar ei hymennydd. 

Daeth y don wen i daro eto gydag ychydig dros bum munud i fynd - 10fed cais yn cyrraedd i Loegr gan Abby Dow.

Roedd un arall i ddod i Loegr wedi 80 munud - Abi Burton yn coroni prynhawn llwyddiannus iawn i Loegr. 

Harrison oedd yn gyfrifol am drosi chwech o giciau i Loegr ac fe fydd y garfan honno'n gadael Caerdydd gyda pherfformiad disglair arall i'w gofio.

 

 

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.