Newyddion S4C

Tri o bobl wedi marw yn dilyn tân mewn hen dŷ ger rheilffordd

Tân Kettering

Mae tri o bobl wedi marw yn dilyn tân mewn hen dŷ hanesyddol mewn pentref yn Sir Northampton.

Cafodd yr heddlu, y gwasanaethau tân ac ambiwlans eu galw tua 22.30 ddydd Gwener yn dilyn adroddiadau bod tân mawr yn y tŷ yn Beswick Close yn Rushton, ger Kettering.

Fe gadarnhawyd yn ddiweddarach bod tri o bobl wedi marw, meddai Heddlu Sir Northampton.

Ni roddwyd unrhyw fanylion pellach am oedran nag enwau'r rhai fu farw.

Mae lluniau o’r safle’n dangos twll mawr wedi’i losgi trwy do’r adeilad, oedd yn hen dŷ gorsaf feistr o’r 19eg ganrif yng ngorsaf reilffordd Glendon a Rushton sydd bellach wedi cau.

Mae’n adeilad rhestredig Gradd II, yn ôl gwefan Historic England, a'r gred yw ei fod bellach yn eiddo preswyl.

Cafodd tri heddwas eu cludo i'r ysbyty o ganlyniad i effeithiau anadlu mwg, ychwanegodd y llu.

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.