Cip o'r eclips: Diffyg rhannol ar yr haul yn ymddangos mewn mannau
Roedd diffyg rhannol ar yr haul i'w weld uwchben rhannau o Brydain fore dydd Sadwrn.
Mae'r ffenomenon yn digwydd pan fydd y lleuad yn symud rhwng yr haul a'r ddaear.
Nid oedd y tri wedi ei lleoli'n union o flaen ei gilydd felly dim ond diffyg rhannol - partial eclipse - gafodd ei weld mewn mannau oedd heb gwrlid cymylau yn ei guddio.
Roedd y diffyg ar ei anterth tua 11:00 ddydd Sadwrn ac roedd i'w weld mewn rhannau o'r wlad rhwng tua 10:00 a hanner dydd.
Nid oedd modd ei weld heb ddefnyddio dulliau arbennig o'i wylio, fel gwisgo sbectols pwrpasol neu greu lens arbennig i osgoi cryfder goleuni'r haul.
Dywedodd y seryddwr Imo Bell o Arsyllfa Frenhinol Greenwich am 11:15: “Ni welwyd unrhyw beth annisgwyl, ond dyna’r peth cŵl, rydym wedi gwybod bod hyn wedi bod yn dod ers amser maith.
“Mae gennym ni’r dechnoleg a’r ddealltwriaeth o ofod nawr i ragweld y pethau hyn yn fanwl iawn.
"Rydw i, ynghyd â miloedd o bobl, y ei wylio. Rydw i yn Rhydychen ar hyn o bryd, rydym wedi gweld ychydig mwy na 30% o gysgod ar yr haul.
"Rwyf wedi clywed bod llawer o bobl yn y DU wedi cael cysgod cwmwl gwael, ac felly methu ei weld.
"Os oes gennych chi dywydd da, rydych chi'n eithaf lwcus."
Dywedodd y Swyddfa Dywydd yn gynharach ddydd Sadwrn mai ardaloedd deheuol a dwyreiniol y DU fyddai gyda'r amodau gwylio gorau, gydag awyr fwy cymylog yn y gogledd a'r gorllewin.
Bydd yr eclips solar rhannol nesaf i’w weld yn y DU ym mis Awst 2026, gyda disgwyl iddo gael cysgod o 90% o arwynebedd yr haul.
Llun: PA