
Dros 1,600 o bobl wedi marw yn dilyn y daeargryn yn Myanmar
Mae dros 1,600 o bobl wedi marw a bron i 3,500 wedi'u hanafu ar ôl i ddaeargryn nerthol daro Myanmar yn y dwyrain pell meddai llywodraeth filwrol y wlad.
Fe wnaeth y daeargryn, oedd yn mesur 7.7 ar y raddfa Richter, daro Myanmar fore Gwener.
Mae cryniadau'r daeargryn wedi effeithio ar wledydd cyfagos hefyd, gan gynnwys prifddinas Bankgkok yng Ngwlad Thai.
Roedd canolbwynt y daeargryn ger dinas Monywa ym Myanmar.
Dywedodd llywodraeth filwrol Myanmar ei bod wedi agor ysbyty dros dro ym Maes Awyr Mandalay.
Nid yw'r maes awyr yn weithredol ar hyn o bryd, gyda'r rhedfeydd wedi'u difrodi yn ystod y daeargryn.
Ond dywedodd llefarydd eu bod yn gweithio'n galed i ailddechrau hediadau.

Mae Prif Weinidiog Myanmar, Min Aung Hlaing, wedi gwneud apêl am gymorth fyd-eang.
"Hoffwn wahodd unrhyw wlad, unrhyw sefydliad, neu unrhyw un ym Myanmar i ddod i helpu. Diolch," meddai.
Mae'r Unol Daleithiau, yr Undeb Ewropeaidd, Asean a China wedi addo rhoi cefnogaeth.
Yn ôl awdurdodau Gwlad Thai, mae o leiaf 10 o bobl wedi marw yn ei phrifddinas lle mae 17 miliwn o bobl yn byw, nifer mewn tyrau uchel.
Y gred yw bod mwy na 100 o bobl ar goll ar ôl i dwr ddymchwel yng nghanol y ddinas.
Mae Meysydd Awyr Gwlad Thai wedi cyhoeddi datganiad yn dweud bod chwech o’u meysydd awyr wedi dychwelyd i gynnig gwasanaethau arferol, gan gynnwys yn Bangkok, Chiang Mai, Hat Yai, Chiang Rai a Phuket.
Yn Myanmar, mae stad o argyfwng yn ardaloedd Sagaing, Mandalay, Magway, Bago, Talaith Dwyrain Shan a Naypyidaw yn ôl adroddiadau lleol.
Llun: Sai Aung / AFP