Newyddion S4C

Cyn-athro mewn ysgol yn y gogledd wedi ffugio bod yn blentyn ar Snapchat

ITV Cymru
Simon Clark (ITV)

Mae cyn-athro oedd wedi ffugio bod yn blentyn yn ei arddegau ar Snapchat wedi pledio’n euog i 29 o droseddau rhyw yn erbyn 26 o blant, gan gynnwys un mor ifanc â 10 oed.

Roedd Simon Clark  yn gweithio mewn ysgol yng ngogledd Cymru cyn cael ei arestio ym mis Awst 2023.

Fe wnaeth rhiant pryderus gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru i ddweud fod eu merch yn ei harddegau wedi bod yn derbyn negeseuon gan ddyn anhysbys yn gofyn am ddelweddau anweddus.

Cynhaliwyd gwarant yn ei gartref ym mis Mai 2023 ac gymerwyd nifer o ddyfeisiadau o’r cyfeiriad, gyda swyddogion Heddlu Sir Gaer yn darganfodyn ddiweddarach fod Clark wedi bod yn esgus bod yn ei arddegau ar gyfrif Snapchat.

Fe wnaeth ymddangos yn Llys y Goron Caer ddydd Gwener i gyfaddef y troseddau.

Cyhuddiadau

Roedd y cyhuddiadau i gyd yn ymwneud â 26 o ddioddefwyr o dan 16 oed ac fe ddigwyddodd dros gyfnod o saith mlynedd.

Roeddynt yn cynnwys tri chyfrif o gymell plentyn dan 13 oed i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, 21 achos o gyfathrebu’n rhywiol â phlentyn o dan 16 oed, tri chyfrif o wneud ffotograffau anweddus o blant, a dau gyfrif arall o gymell plentyn i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol.

Clywodd y llys ei fod wedi gwneud 26 o ddelweddau anweddus a gafodd eu dosbarthu fel Categori A - y mwyaf difrifol - ynghyd â 29 yng Nghategori B ac 81 yng Nghategori C.

Cafodd Clark ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.

Dywedodd y Cofiadur Eric Lamb wrth y diffynnydd yn y doc yn Llys y Goron Caer: “Rydych chi wedi pledio’n euog i nifer sylweddol o droseddau difrifol yn erbyn plant.

"Cyn dedfrydu mae'r llys angen rhagor o wybodaeth. Byddaf yn gohirio am chwe wythnos. Byddwch yn parhau ar fechnïaeth a y telerau presennol."

Fe’i rhybuddiodd y byddai’n wynebu “tymor sylweddol o garchar yn syth”.

Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 9 Mai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.