‘Ar ein stepen drws’: Rhaglen yn ymchwilio i dwf neo-Natsïaeth yng Nghymru
Mae'r nifer o fechgyn yng Nghymru sy’n cael eu radicaleiddio gan grwpiau asgell dde eithafol yn tyfu’n gynt nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig yn ôl darlithydd o Brifysgol Caerdydd.
Bydd rhaglen newydd ar S4C yn ymchwilio i dwf neo-Natsïaeth yng Nghymru.
Bydd y newyddiadurwraig Maxine Hughes yn codi’r llen ar y grwpiau asgell dde eithafol sy’n ffynnu ar-lein ac yn targedu pobl fregus yng Nghymru yn y rhaglen Byd Eithafol: Neo-Nazis yn ein Plith.
Bydd yn dangos y dylanwad y mae’r grwpiau’n eu cael yng Nghymru drwy gyfweliadau gyda phobl ar bob ochr o’r ddadl.
Bydd y rhain yn cynnwys gwleidyddion, athrawon, dilynwyr y mudiad a chyn-ddilynwyr, protestwyr yn erbyn y gwersyll i ffoaduriaid ym Mhenalun, bechgyn ifanc sy’n chwarae gemau ar-lein a’u rhieni.
Yn ôl ystadegau, bechgyn gwyn o dan 20 oed mewn ardaloedd gwledig sydd fwyaf tebygol o gael eu dylanwadu a’u tynnu i’r asgell dde eithafol - a hynny wrth iddynt hunan-radicaleiddio ar-lein.
'Dim perthynas'
Yn y rhaglen, mae Maxine yn archwilio pa mor hawdd fyddai cysylltu gyda phobl eithafol mewn gemau ar-lein, ac yn siarad gyda mam un bachgen a gafodd ei radicaleiddio.
“Odd fy mab fel unrhyw fachgen 14 mlwydd oed,” meddai’r fam.
“Odd e’n hapus, hwyliog, caredig, gofalgar a chariadus...ond erbyn y diwedd, doedd dim perthynas gyda ni o gwbl.”
Daw Maxine i ddeall bod grwpiau asgell dde eithafol yn targedu pobl ifanc niwrowahanol yn arbennig, a pham.
Un o’r bobl y mae Maxine yn eu cyfweld ydi Dr Donna Sharland, Ymgynghorydd Arbenigol Niwroamrywiaeth gyda Phlismona Gwrthderfysgaeth Cymru.
'Pryderus iawn'
“Weithiau bydd pobl awtistig yn chwilio am brofiadau synhwyraidd oherwydd nad ydyn nhw’n cael yr adborth hwnnw’n naturiol o’u systemau synhwyraidd eu hunain,” meddai Dr Sharland.
Ychwanegodd y gall pethau fel symbolau gweledol fod yn “ddeniadol iawn” i bobl niwrowahanol, a bod “baneri bob amser wedi bod yn ddeniadol iawn i bobl awtistig.”
Felly gallwch ddeall pan fydd grwpiau asgell dde eithafol yn defnyddio’r symbolau hynny y gall ddenu [pobl niwrowahanol].”
“Mae’n bryderus iawn,” ychwanegodd.
'Ar ein stepen drws'
Yn ôl y darlithydd mewn athroniaeth, Dr Huw Williams, sydd wedi astudio twf y mudiad adain dde eithafol yng Nghymru, mae’r Cymry Cymraeg yn naïf am fygythiad neo-Natsïaeth.
“Mae e mwy neu lai ar ein stepen drws” meddai.
“Ni’n gwybod bod y syniadau yma, yr agweddau yma, y grwpiau yma, yn fyw ac yn iach i raddau helaeth."
Dywedodd ei fod yn “ddiddorol iawn” edrych yn ystod wythnos yr Eisteddfod, “lle fuodd llawer yn dweud ar y cyfryngau cymdeithasol mor dda oedd e gweld y Cymry’n dod at ei gilydd yn dathlu eu diwylliant".
“Ond mae hwnna’n awgrymu nad ydy y grwpiau yma ddim yn llechu yn y cysgodion,” meddai.
“Mae e’n broblematig.
"Mae’n rhaid i ni fod yn realistig ynglŷn â’r ffaith bod y syniadau yma wrth gwrs yn bwrw gwreiddiau ac wedi bod yna ers blynyddoedd lawer."
Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar S4C nos Lun 31 Mawrth am 20:00, a bydd hefyd ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer.