Siambr y Senedd i gau am flwyddyn er mwyn ei hymestyn
Bydd Siambr y Senedd yn cau am flwyddyn o wythnos nesaf ymlaen ar gyfer ymestyn ei maint.
Ar brynhawn dydd Mercher, 2 Ebrill, bydd Elin Jones AS yn dod a’r trafodaethau i ben am y tro olaf eleni cyn i’r gwaith adnewyddu ddechrau.
O’r etholiad ym mis Mai 2026 ymlaen, bydd gan y Senedd 96 o aelodau yn hytrach na’r 60 sydd ganddi ar y funud.
Golyga hyn bod angen gwneud gwaith addasu ar y Siambr er mwyn iddi fod yn barod ar gyfer y 96 o aelodau a fydd yn cael eu hethol yn etholiad nesaf y Senedd fis Mai flwyddyn nesaf.
Tra bydd y gwaith hwn yn mynd rhagddo, bydd y gwleidyddion yn parhau i gael trafodaethau yn Siambr Hywel.
Mae Siambr Hywel wedi’i lleoli yn Nhŷ Hywel, yr adeilad drws nesaf i’r Senedd, a dyma’r siambr drafod wreiddiol a oedd yn cael ei defnyddio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd rhwng 1999 a 2006.
Y newidiadau
Roedd dyluniad gwreiddiol y Siambr yn cynnwys paneli yng nghefn yr ystafell a oedd yn bosib eu symud oddi yno pe bai fyth angen ei newid.
Felly, bydd symud y paneli hyn yn creu digon o le i gael desgiau a seddi ar gyfer 96 o Aelodau.
Bydd y grisiau’n cael eu tynnu allan i wella hygyrchedd a bydd gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar y systemau darlledu a goleuo.
‘Balch’
Dywedodd Elin Jones AS, Llywydd y Senedd, y bydd yr aelodau yn “ffarwelio â’r Siambr yr ydym wedi dod i arfer â hi dros y 19 mlynedd diwethaf”, ac yn “symud ymlaen i’r bennod nesaf yn stori democratiaeth Cymru.”
"Heddiw, mae gennym Senedd lawn gyda phwerau i ddeddfu ac amrywio trethi, ac mae wedi bod yn daith hir tuag at Senedd all gynrychioli pobl Cymru yn y ffordd orau a dwyn y llywodraeth i gyfrif.
"Rwy'n falch o fod yn rhan o sefydliad sy'n edrych tua’r dyfodol yn hytrach na’r gorffennol,” meddai.
“Bydd y newidiadau sy'n dod i'r adeilad hwn yn diogelu ein Senedd at y dyfodol, gan sicrhau ei bod yn addas i'r diben am y 100 mlynedd nesaf.”
Bydd pob ardal yn y Senedd yn parhau i fod ar agor i’r cyhoedd chwe diwrnod yr wythnos, ac eithrio’r oriel gyhoeddus y Siambr a fydd ar gau ar gyfer gwaith adeiladu.
Llun: Comisiwn y Senedd