Newyddion S4C

Tonysguboriau: Dyn yn pledio'n euog i geisio llofruddio heddwas mewn gorsaf heddlu

28/03/2025
Alexander Dighton

Mae dyn o Lantrisant wedi pledio'n euog i geisio llofruddio plismon mewn gorsaf heddlu yn Nhonysguboriau ddiwedd mis Ionawr.

Fe wnaeth Alexander Dighton ymddangos yn llys yr Old Bailey yn Llundain ddydd Gwener.

Fe wnaeth gynrychioli ei hun yn ystod y gwrandawiad.

Clywodd y llys mai ei gymhelliad am yr ymosodiad ar 31 Ionawr oedd am ei fod yn dal dig gyda'r awdurdodau.

Cafodd ei weld ar deledu cylch cyfyng yn cerdded ar draws y stryd i'r orsaf heddlu ar noson yr ymosodiad yn cario sach deithio fawr a pholyn pren hir.

Ychydig cyn 19:00, taniodd fom tân a’i daflu at fan yr heddlu.

Pan fethodd danio, tywalltodd botel ar foned y fan a cheisio ei rhoi ar dân.

Aeth ymlaen i ddefnyddio'r polyn pren i dorri ffenestri'r fan. 

Fe chwalodd y polyn cyn iddo droi ei sylw at dargedu cerbyd heddlu arall.

Fe wnaeth swyddogion Heddlu De Cymru ei herio y tu allan i'r orsaf yn fuan wedyn.

'Llond bol'

Anwybyddodd Dighton orchmynion i ollwng ei arf ac fe aeth at swyddog gan ddweud:  “Dw i wedi cael llond bol, rydw i wedi gorffen.”

Cafodd y diffynnydd, a oedd yn gwisgo arfwisg ar ei gorff, ei saethu gyda gwn Taser a'i chwistrellu gyda nwy ond doedd hynny'n creu fawr ddim effaith arno wrth iddo ymosod ar swyddogion yr heddlu a geisiodd ei atal.

Chwifiodd y polyn pren at un swyddog, gan ei daro yn ei ben a thrywanu swyddog arall yn ei goes.

Cafodd dau o'r tri swyddog a anafwyd eu cludo i'r ysbyty am driniaeth.

Ar ôl cael ei arestio, dywedodd Dighton: “Rwyf wedi cael fy namnio ers fy ngenedigaeth.”

Cyhuddiadau

Roedd yn wynebu 10 chyhuddiad i gyd oedd yn cynnwys ceisio llofruddio, ymosod gan achosi niwed corfforol, ymosod ar weithiwr brys, llosgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd, bod ag arf ymosodol yn ei feddiant a dau gyhuddiad o fod â llafn yn ei feddiant.

Cyfaddefodd i ymgais i lofruddio’r Ditectif Gwnstabl Jack Cotton, ceisio achosi niwed corfforol difrifol bwriadol i Sarjant Richard Coleman, ymosod ar y Cwnstabl Joshua Emlyn a bygwth PC Stephanie Fleming â pholyn pren oedd wedi’i addasu.

Plediodd hefyd yn euog i ymgais i losgi fan heddlu, dau gyhuddiad o ddifrodi eiddo'r heddlu a chael polyn pren wedi'i addasu a chyllell yn ei feddiant.

Fe fydd Dighton yn cael ei ddedfrydu yn yr Old Bailey ar 13 Mai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.