Y Brenin yn canslo trefniadau ar ôl treulio 'cyfnod byr' yn yr ysbyty
Roedd yn rhaid i’r Brenin Charles dreulio “cyfnod byr” yn yr ysbyty ar ôl dioddef sgîl-effeithiau ei driniaeth am ganser.
Mae wedi canslo ymweliad i ddinas Birmingham ddydd Gwener er mwyn blaenoriaethu ei iechyd, meddai Palas Buckingham.
Y gred yw bod y Brenin, sy'n 76 oed, yn teimlo’n well ac mae'n bwriadu gweithio o’i swyddfa yn ei gartref yn Nhŷ Clarence, Llundain, yn ystod y dydd.
Yn ôl ffynhonnell yn agos iddo, mae Charles “ar y trywydd iawn” o ran ei iechyd.
Mae Prif Weinidog Llywodraeth y DU wedi dymuno'n dda iddo, medd llefarydd ar ran Syr Keir Starmer.
Fe wnaeth y Brenin Charles ymweld â chlinig yn Llundain fore dydd Iau gan deithio mewn car i’r ysbyty yn ddiweddarach.
Mewn datganiad nos Iau dywedodd Palas Buckingham: “Yn dilyn triniaeth feddygol oedd wedi’i threfnu o flaen llaw ar gyfer canser y bore ‘ma, roedd y Brenin wedi profi sgîl-effeithiau am gyfnod gan olygu bod yn rhaid iddo dreulio cyfnod byr yn yr ysbyty.
Eglurodd y Palas y bydd yn rhaid iddo fethu’r digwyddiadau oedd yn y calendr ar gyfer dydd Gwener.
“Mae Ei Fawrhydi yn ymddiheuro i bawb sydd wedi cael eu siomi o ganlyniad,” meddai’r datganiad.
Fe gafodd y Brenin Charles ddiagnosis o ganser ym mis Chwefror 2024. Fe wnaeth ddychwelyd i’w ddyletswyddi ym mis Ebrill gan barhau i dderbyn triniaeth wythnosol.
Llun: Samir Hussein/PA Wire