Diwedd y daith i siopau WH Smith ar y stryd fawr
Bydd enw WH Smith yn diflannu o'r stryd fawr am byth yn fuan, wedi i'r gadwyn o siopau gael ei gwerthu i gwmni arall.
Mae perchnogion y cwmni wedi cytuno i werthu cadwyn WH Smith i berchennog Hobbycraft Modella Capital mewn cytundeb gwerth £76 miliwn.
Bydd hyn yn y pen draw yn arwain at ail-frandio'r siopau fel TGJones.
Nid yw'r cytundeb yn cynnwys siopau'r cwmni mewn meysydd awyr a gorsafoedd trên - na brand WHSmith ei hun.
Bydd 480 o siopau'r cwmni a 5,000 o staff sy’n gweithio ar y stryd fawr yn dod o dan berchnogaeth Modella Capital fel rhan o’r gwerthiant.
Bydd y cytundeb yn gweld enw WH Smith yn diflannu o'r stryd fawr a'i ddisodli gan frand TGJones.
Ni fydd y siopau mewn lleoliadau teithio, sydd wedi dod yn ganolbwynt allweddol i’r grŵp yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac sydd hefyd yn cynnwys siopau mewn ysbytai, yn newid.
Mae'r siopau hyn yn gyfrifol am y rhan fwyaf o elw'r cwmni, ac mae wedi tyfu i fwy na 1,200 o siopau ar draws 32 o wledydd.
Mae siopau stryd fawr WH Smith wedi dod yn “rhan dipyn llai” o fusnes y grŵp, meddai'r perchnogion.