'Ebrill erchyll': Cynnydd ar y gweill mewn biliau o bob math i deuluoedd
Mae teuluoedd ar fin gweld cynnydd cyffredinol i’w biliau fis nesaf wrth i “Ebrill erchyll” gyrraedd - gan arwain at godiad mewn biliau o ynni i dreth y cyngor.
Bydd biliau ynni miliynau o gartrefi yn codi 6.4% o 1 Ebrill pan fydd Ofgem yn cynyddu ei gap prisiau am y trydydd chwarter yn olynol, a bydd biliau dŵr yn cynyddu £123 y flwyddyn ar gyfartaledd – y cynnydd mwyaf ers preifateiddio’r diwydiant ym 1989.
Mae’r rhan fwyaf o gynghorau yn bwriadu codi biliau treth gyngor fis nesaf hefyd - gyda chynghorau Cymru'n cynyddu biliau rhwng 5% a 9.2%.
Mae biliau band eang a ffôn yn codi, tra bod cost trwydded teledu a chyfradd safonol y dreth car yn codi £5, ac ni fydd cerbydau trydan yn cael eu heithrio rhag talu bellach.
Gyda'r cartref cyffredin eisoes yn gwario £2,062 ar hanfodion bob mis, mae dadansoddwyr yn credu y gallai'r codiadau diweddaraf ychwanegu £49.45 arall at y ffigwr hwn.
Dywedodd Alice Haine, dadansoddwr cyllid personol gydag Evelyn Partners: “Am gyfnod roedd yn ymddangos fel pe bai’r argyfwng costau byw y tu ôl i ni; roedd chwyddiant yn lleddfu, cyfraddau llog yn gostwng ac roedd y ffordd o’n blaenau yn edrych yn fwy disglair.
“Ond mae newyddion cymysg macro-economaidd yn ddiweddar wedi newid y rhagolygon hynny yn sylweddol.
“Canlyniad yr holl helbul hwn yw bod cartrefi Prydain bellach yn wynebu ton o godiadau biliau ym mis Ebrill a fydd yn ergyd i'w safonau byw trwy gnoi i ffwrdd eu hincwm gwario."