
Endo a Fi: DJ a chyflwynydd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o endometriosis
Mae rhaglen newydd yn rhoi sylw i gyflwr endometriosis, sy’n effeithio ar filoedd o ferched yn y DU.
Mae mis Mawrth yn fis i godi ymwybyddiaeth o endometriosis, cyflwr sy’n effeithio ar 10% o fenywod ar draws y Deyrnas Unedig, gan gynnwys tua 160,000 yng Nghymru.
Mae endometriosis yn digwydd pan fydd celloedd tebyg i'r rhai yn leinin y groth yn tyfu mewn rhannau eraill o'r corff, fel y pelfis, y bledren a'r coluddyn.
Gall achosi poen difrifol, mislif trwm, blinder a phroblemau ffrwythlondeb.
Mae'r rhaglen ddogfen newydd o’r enw Endo a Fi gan Hansh yn “codi ymwybyddiaeth” o’r cyflwr drwy holi cwestiynau i'r cyhoedd ac arbenigwyr iechyd.
Y DJ a’r cyflwynydd Molly Palmer sy’n cyflwyno’r rhaglen ac mae hi ei hun yn dioddef o’r cyflwr ac yn dweud bod angen tynnu mwy o sylw ato.
'Hunllef'
Ar gyfartaledd, mae’n cymryd tua 10 mlynedd i gael diagnosis swyddogol o endometriosis yng Nghymru.
Fe gafodd Molly Palmer ddiagnosis yn 2024 wedi iddi gael laparosgopi, sef un o’r unig lawdriniaethau sydd ar gael er mwyn darganfod os oes gan ddynes endometriosis.
Dywedodd ei bod wedi bod yn dioddef ers “12-13 mlynedd” cyn y diagnosis, a bod y boen yr oedd endometriosis yn ei roi iddi yn “hunllef”.
“Dychmyga bod rhywun yn shoveo rhywbeth mewn i dy fola di, ond gyda rhywbeth ar y diwedd, rhywbeth pigog, ac yna’n troi e ar ben hynny, lle ‘da chi’n cael bola tost”.
Yn ôl Molly, mae’r amser hir y mae’r merched yn gorfod ei ddisgwyl er mwyn cael diagnosis yn golygu bod miloedd yn dioddef poenau mawr ar draws y wlad.
“Dychmyga chwyn yn tyfu i bob man ‘da chi ddim eisiau iddyn nhw dyfu” meddai, “’da chi’n tynnu nhw mas, maen nhw’n dod yn ôl yn gyflymach ac yn fwy gyda mwy o leaves”.
“Dyna sut dwi’n visualisio endometriosis yn fy mhen i… dyna sut mae’n teimlo fel, constantly”.
'Tristwch ta rhyddhad'
Ar y rhaglen, mae Molly’n gofyn cwestiynau wrth y cyhoedd a meddygon am endometriosis i gael gweld faint y maen nhw’n ei wybod am y cyflwr.
Mae hi hefyd yn trafod y drefn o gael diagnosis, y driniaeth a’r hyn sydd angen ei newid gyda meddygon.
Eglurodd bod rhaid iddi “gweryla” gyda’i llawfeddyg er mwyn cael laparosgopi i weld a oedd ganddi endometriosis am nad oedd yn credu bod ganddi’r cyflwr.
Ar ôl cael y diagnosis, dywedodd ei bod wedi crio, ond nad oedd hi’n siŵr os mai tristwch neu ryddhad oedd hi’n ei deimlo.

Cynllun Iechyd Menywod
Mae Molly’n cael sgwrs gyda’r Gweinidog Iechyd, Sarah Murphy ar ddiwedd y rhaglen.
Dywedodd Ms Murphy bod y rhan fwyaf o’r llwybrau iechyd sydd gan y wlad wedi eu cynllunio ar gyfer dynion, ac ar gyfer cyrff dynion.
Mae Cynllun Iechyd Menywod y llywodraeth yn “dod o genedlaethau o wahaniaethu systemig hanesyddol a chamddealltwriaeth o iechyd menywod” meddai.
“Ac felly mae’n ddarn enfawr o waith, mae’n 10 mlynedd o waith, mae’n ddogfen fyw, a mae ‘na gymaint o bobl wedi bwydo i mewn iddi, cymaint o bobl â phrofiad byw sy’n gwbl hanfodol”.
Eglurodd bod y cynllun wedi ei dorri i lawr i feysydd blaenoriaeth gwahanol, ac mae endometriosis yn un ohonynt.
“Mae gennym nodau tymor byr, canolig a hir ar gyfer bob un o’r blaenoriaethau allweddol hynny”.
Dywedodd Molly Palmer bod y cynllun yn amlinellu £750,000 o gyllid ac ymchwil i gyflyrau iechyd menywod dros y ddeng mlynedd y mae’r cynllun yn mynd i gael ei roi ar waith.
“Rwy’n meddwl fod hynny’n ddyraniada gymharol fach ar gyfer cyflyrau mor ddifrifol” meddai.
Eglurodd Sarah Murphy ei bod wedi cael y cyfle i siarad gyda’r menywod a fydd yn lansio’r cynllun, gan ddweud eu bod yn credu y bydd yr arian hwnnw’n denu mwy o gyllid, a’i fod yn “rhoi endometriosis ar y map”.