Newyddion S4C

Tri o forwyr o Gymru yn gapteiniaid mewn un o rasys anodda’r byd

28/03/2025
Ras Clipper

Mae tri o forwyr proffesiynol o Gymru wedi eu dewis i fod yn gapteiniaid yn y ras hwylio Clipper o amgylch y byd.

Sefydlwyd Ras Hwylio Clipper Round the World gan Syr Robin Knox-Johnston, yn 1995.

Fe fydd y ras yn cychwyn ar 31 Awst o Portsmouth gan ymweld â 14 porthladd fydd yn cynnwys Cape Town (De Affrica), Qingdao (Tsieina) a Tongyeong City (De Corea).

Fe fydd enwau rhagor o borthladdoedd yn cael eu cyhoeddi yr wythnos nesaf.

Fe fydd Alistair Dickson o Borthaethwy, Lowri “Lou” Boorman o Hwlffordd a Gavin Rees o’r Fenni yn arwain tîm yr un allan o’r 11 fydd yn cystadlu yn y ras.

Bydd y tri yn arwain timau o forwyr nad ydynt yn broffesiynol ar fordaith o 40,000 milltir fôr fydd yn cymryd 11 mis i’w chwblhau.

Y ras Clipper yw’r unig un o’i bath sy’n hyfforddi pobl o wahanol gefndiroedd i fod yn raswyr ar y cefnfor mewn her o wytnwch eithafol.

Dywedodd Alistair: “Mae’r cyfle hwn yn cyfuno fy angerdd dros hwylio a datblygu tîm mewn ffordd wirioneddol unigryw. Ar ôl treulio blynyddoedd yn hogi fy sgiliau ar dingis a chychod hwylio ledled y byd, rwy'n awyddus i arwain tîm sy'n ffynnu nid yn unig ar berfformiad, ond ar gydweithio a chyfeillgarwch.”

Erbyn iddi gyrraedd 16 oed roedd Lowri Boorman eisoes wedi cystadlu ar y llwyfan hwylio rhyngwladol gan gipio teitl Pencampwr Merched Prydain, Iwerddon a Chymru. 

Mae cael ei phenodi’n fel capten yn y ras yn “nod proffesiynol a phersonol enfawr” iddi. 

Dywedodd: “Mae cydbwysedd sgiliau hwylio, datrys problemau, rheoli pobl a dygnwch dros 40,000nm i gyd yn rhan o’r her. Alla’ i ddim aros i weld hud y môr, y sêr, y stormydd ac yn bennaf yr anghysbell a’r amgylchedd y mae’n ei ddarparu ar gyfer y sylweddoliadau a’r sgyrsiau mwyaf dwys. Rwy’n teimlo’n rhydd ac ar fy hapusaf ar y môr.”

Dywedodd Gavin Rees: ”Ni allaf aros i dreulio blwyddyn yn hwylio o amgylch y byd, oherwydd mae pob diwrnod ar y dŵr yn wahanol. Mae'n dod â chyfleoedd newydd i weithio fel tîm, i oresgyn pa bynnag heriau a ddaw yn ei sgil, ac i hwylio'n gyflym ac yn ddiogel. Mae’r teimlad hwnnw y bydd y criw cyfan yn ei gael o’r diwedd yn mynd i fod yn wych!”

Sefydlwyd Ras Hwylio Clipper Round the World gan Syr Robin Knox-Johnston, yn 1995.

Fe fydd y ras yn cychwyn ar 31 Awst o Portsmouth gan ymweld â 14 porthladd fydd yn cynnwys Cape Town (De Affrica), Qingdao (Tsieina) a Tongyeong City (De Corea).

Fe fydd enwau rhagor o borthladdoedd yn cael eu cyhoeddi yr wythnos nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.